Mae Gwyn wedi dod yn ôl!

Felly, does dim angen i ddweud: dw i’n hapus iawn!

Er hynny, Stopiodd yn y bore doe ac wedyn aeth e mas eto. Dw i ddim wedi edrych arno ers yna. Ymddygiad od iawn. Dim ots, sbo. Dw i’n jyst hapus i wybod bod popeth yn iawn gyda fe.

Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ‘fory. Gallaf edrych ar Gymru yn chwarae erbyn Ffrainc yn y bore. Bydd BBC yn darlledu’r em am 8:00 o’gloch yn y bore amser Califfornia. Ar ôl hynny, bydda i’n galw dros at stiwdio chrochenwaith, credu. Dw i wedi gorffen cwpl o botiau’r wythnos diwethaf ‘na. Dylen nhw fod parod gan brynhawn dydd Sadwrn.

Mae llawer o ddiddordeb ‘da fi yn gwneud crochenwaith ar hyn o bryd. Dyma focs bach gwnes am flwyddyn yn ôl. Mae hi’n ymddangos fel lledr ond mae hi wedi ei gwneud o glai ‘Electric Brown’. Dw i’n falch iawn ohoni a dw i’n mwynhau’r gwaith crochenwaith.  :O)

Bocs crochenwaith gan Pegi Rodgers

Ystumllwynarth

Aaaaa, siopa…….beth mae ffordd neis i ymlacio.  Ac un diwrnod, bydda i’n cofio’r ffordd dweud Osytermouth yn Gymraeg heb fy ‘cheat sheet’. 

Beth bynnag, roeddwn i wedi blino o eistedd o flaen y cyfrifiadur felly datganais fy annibyniaeth ac es i Ystumllwynarth i brynu anrhegion penblwydd i ffrindiau a rhywbeth i fy mam.  Mae fy mam yn hoffi Cymru ond fydd hi byth yn ei gweld hi achos nid gall hi hedfan nawr.  Felly dw i’n hoffi anfon pethau Cymreig ati hi nawr ac eto.

Wel, does dim siaradwyr Cymraeg yn fy hoff siop anrheg (neu lawer o siopiau yn Ystumllwynarth – gwaetha’r modd, ond dyna ni), ond gwnes i ffeindio siaradwr yn siopa olewydden.  Roedd sgwrs neis ‘da ni a dysgais y gair ‘olewydden’ ohono fe.  Hefyd, teimlais wych ar ôl hynny achos bod e’n dweud fy Nghymraeg yn ‘da iawn’!  Bonws oedd hynny – roeddwn i jyst hapus deall yr hyn dywedodd. 

Roedd llawer o draffig yn Ystumllwynarth fel arfer, ond dim llawer o bobol yn cerdded.  Felly roedd hawdd i symud o gwmpas y dre.  Cerddais ar stryd ochor a ffeindiais siopa siocled gyda siocled Cymreig o waith llaw.  Wedyn cerddais lan y bryn drwy ffordd ochor gyda golygfa hyfryd o’r castell a baner Gymru newydd (cafodd y baner diwedd ei thorri).  Hyfryd yw’r Ddraig Goch yn hedfan ar yr awel!

Mae popeth ‘da nhw yn Ystumllwynarth.  Felly, pam lai prynu swper?  Dw i’n hoffi’r math o siopa ‘ma – ymweld â siop fach yma a siop fach arall yna.  Mae e’n un o’r ‘perks’ o fyw yng Nghymru.  Does dim byd tebyg i hyn yng Nghaliffornia ‘da ni.  Wel, ble roeddwn i’n byw beth bynnag.

Bant i’r gwerthwr pysgod i eog ffres, i’r grîn-groser i lysiau a lemon a dyna ni – pryd perffaith.

Felly, heno, dw i eithaf hapus ac edrych ymlaen at swper blasus.  Bywyd yn dda weithiau, does dim dau amdani….

Adverts Doniol

Fel arfer, dw i’n casáu’r becso o hysbysebion – maen nhw’n torri’r llif o raglen.   Ond nawr ac eto, mae rhywun yn gwneud un doniol.   Anfonodd ffriend y un ‘ma i fi bore ‘ma, ac mae e’n eithaf gwneud fy more.  :O)

Mae e ar YouTube hefyd, ond dw i’n hoffi’r diwedd o’r fersiwn o’m ffriend yn well.

Chi ‘mod, pan ddych chi’n meddwl amdano fe, mae’r cwmni yn derbyn mwy amser awyr achos bod e’n ddoniol (felly mae pobol yn pasio’r fideo o gwmpas gan ebost), siŵr o fod.  Mae llawer o ‘free advertising’ y ffordd ‘na!

Penblwydd Hapus i Fi!

Ie, heddiw yw fy mhenblwydd.   Na, dw i ddim yn dweud fy oed.  Ac, os wyt ti’n nabod fi a gwybod fy oed, paid dweud!  Dw i wedi anghofio’r wybodaeth ‘na  – wel, dw i’n ceisio i anghofio beth bynnag.

Yfory, dw i’n bant i Harlech i’r Arbrawf Mawr.  Dw i’n edrych ymlaen at hynny yn fawr.   Mae Jonathan a’i wraig yn dod o Derby.  Dw i ddim wedi eu gweld nhw ers amryw fisoedd a bydd e’n dda iawn eu gweld nhw eto.  Mae Jonathan yn chwarae flute ac acordion (ac offerynnau eraill, mae’n debyg) ac mae e arfer chwarae gyda ni yn nosau cerddoriaeth werin Cymraeg Nhŷ Tawe cyn iddyn nhw symud un ôl i Derby.

Dw i’n meddwl y bydd y daith ‘ma’n herio achos bydd y rhan fwyaf pobol yn siarad Cymraeg trwy’r amser.  Felly dw i’n mynd ceisio i wneud yr un.   Bydd hynny yn anodd i fi achos dw i ddim yn gwybod llawer o eiriau.   Ond, caf i lawer o hwyl cwrdd â phobol newydd a siarad Cymraeg â nhw felly dw i ddim rhy becso amdano fe.  Bydd e’n ymarfer da iawn a bydda i’n gallu dysgu mwy cerddoriaeth werin Cymraeg.  Felly mae e’n benwythnos ennill-ennill fel bydda i’n gallu gwneud dwy peth bod i’n caru ar yr un pryd.

Dynion Gyda Mwstashis Glas

Roeddwn i’n cerdded i’r bocs swyddfa fore ‘ma pan basiais i ddyn yn cerdded ei gŵn e. Mae dau Pitbulls ‘da fe. Mae mwstas glas ‘da fe. Dw i’n meddwl bod dau Pitbulls ‘da fe felly byddai neb yn gwneud hwyl o ei mwstas glas e. laughing smilie

Rhaid i fi gyffesu bod math o hwyl yw e, yr holl y lliwiau gwallt gwahanol ‘ma. Ond allaf i ddim dweud y byddwn i wneud fe. Does dim digon gwroldeb ‘da fi i wisgo gwallt pinc!

Abaty Castell-nedd

Roedd tywydd yn braf iawn iawn y diwrnod arall ac felly aeth ci a fi teithiol. Doedd llawer o amser ‘da ni felly aethon ni dros i Gastell-nedd a’r abaty. Gwnes i wella – doeddwn i ddim yn cael ar goll mynd i’r abaty.

smilie curo dwylo

Wow! Dyna le anferth! Allwch chi ddim yn tynnu un llun o’r holl beth. Bydd rhaid i chi sefyll hanner milltir yn ôl, dw i’n meddwl. Hefyd, mae’r adeiladau yn dal iawn. Roedd rhaid iddo fe fod (must have been?) eithaf lle pan roedd e’n gyflawn! Rhywbeth o ddrysfa hefyd.

Abaty Castell-nedd
Dim ond darn bach o’r abaty ar y chwith fel edrychwch arno fe.

 ffordd o bersbectif maint, tynnais i’r llun ‘ma sy’n dangos gwraig yn cerdded drwy un mynediad o flaen o’r abaty.

Un mynediad abaty gyda gwraig

A hefyd, y un ‘ma gydag ychydig o fechgyn:

Bechgyn yn eistedd ar wal abaty

Roeddwn i’n synnu i dod o hyn bod gwydr ‘da rhai o’r ffenestri ac mae’r fframiau ffenestri yn eu gwenud nhw o carreg. (Wel, doeddwn i ddim yn synnu am hynny.)

Wal yn dangos ffenestri
Gwydr ffenestri

Dyw e ddim angen dweud bod tynnais i lawer o luniau. Gormod i bostio yma. Ond un mwy – mynedfeydd bwaog hyfryd:

Mynedfeydd bwaog

Ar ôl i ni gadael yr abaty, caethon ni ar goll. Wrth gwrs, ci roedd ar fai – beth allaf i ddweud, mordwywr lleuog yw hi!

Yn ffodus, dw i wedi bod ar goll ar y A465 o’r blaen. Felly, dim ond roedden ni’n mynd hanner ffordd i Ferthyr cyn i fi droi o gwmpas. Wedyn, roedd tagfa drafnidiaeth ar y M4 felly penderfynais i gymryd yr allanfa i Morriston/Clydach. Wel, dw i ddim wedi bod y ffordd ‘na o’r blaen felly, wrth gwrs, does dim syniad gyda fi o ba ffordd i fynd. Dim Ots – ewch lawr y bryn ac, o’r diwedd, byddwch chi’n cyrraedd yn y ffordd gyflym. Mae hi’n mynd o Bontardawe i Abertawe heibio Stadiwm Liberty. Dw i’n gwybod hyn achos bod i’n cael ar goll yn mynd i Bontardawe un dydd. smilie

Hanner Ffordd Yna!

Ar hyn o bryd, dw i hanner ffordd gorffen. Diolch byth! Roedd arholiad cyntaf yn Llenyddiaeth a’r mwyaf anodd – arbennig ar ôl nos Iau ddiwethaf (roedd yr arholiad yn fore Gwener). Es i i Inn Pontardawe i’r tro cyntaf i wrando ar gerddoriaeth. Roedd y lle yn neis iawn iawn a hefyd y gerddoriaeth wrth gwrs. Roedd rhai ffrindiau yn chwarae’r nos ‘na a mwynheais i’n fawr. Byddwn i wedi hoffi i gael cadw hirach. Ond am 10:30 sylweddolais i’r dylwn i fynd cartref os disgwyliais i godi yn y bore. Roedd yr arholiad yn 9:30! Ych-y-fi! Ond o leiaf roedd heulog y bore ‘na.

Roedd diwrnod prysur, dydd Gwener ddiwethaf. Yn gyntaf, yr arholiad. Wedyn, dw i’n gyrru allan i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol Gymru i’r digwydd aelod. Roedd diwrnod ardderchog – twym a heulog. Tynnais i lawer o lunia ac roedd e’n ymlacio i eistedd ar y bryn, yn yr haul ac edrych ar fynydd Caerfyrddin. Mae’r hollol blodau yn blodeuo, mae’r nant yn rhedeg ac mae popeth yn hyfryd.

Roedd yr ‘bumblebee’ yn gydweithredol iawn ac roeddwn i’n gallu tynnu amryw llunia dda ohono fe:

bumble bee on alium

Dw i ddim yn gwybod yr hyn mae’r planhigion ‘na, ond maen nhw’n ddiddorol iawn. Gwelais i rai yn Barc Singleton hefyd:

plants and flowers

Ond doeddwn i ddim yn aros achos bod i’n cwrdd â fy ffrindiau ym Mhontypridd i ‘Allan Nos Merched’. Roedd y traffig ar y M4 yn ofnadwy iawn iawn! Cymerodd e byth a hefyd i gyrraedd! Ond unwaith yna, roedden ni wedi amser gwych! Mae e’n hyfryd i ymlacio gyda ffrindiau, bwyta pryd o fwyd yn dda and mwynha Guinness.

The Importance of Being Earnest

Neithiwr, es i weld y ddrama hon yn Theatr Taliesin, Abertawe. Roedd hi’n wych iawn iawn. Dw i ddim yn credu bod i wedi chwerthin mai caled yn amser hir! Ers un pwynt, roeddwn i’n chwerthin mor galed bod i yn fy nagrau!

Mappa Mundi oedd yr actorion/actoresau ac roedden nhw’n ddisglair. Roedd hawdd i anghofio bod hi’n drama fel roedden nhw’n gwneud e hawdd i ddod â chysylltiedig â’r plot, ac roedd y gynulleidfa yn gallu cysylltiedig â’r cymeriadau yn dda iawn.

Dywedodd ffrind wrtha i fod hi wedi gweld perfformiad ganddyn nhw o’r blaen; The Canterbury Tales. Hoffwn i weld hynny yn fawr. Yn hapus, dywedodd eu gwefan y byddan nhw’n perfformio The Canterbury Tales eto yn hydref. Bydda i’r gyntaf yn lein prynu tocyn, mae hynny’n siŵr!

(Byddan nhw’n perfformio heno eto yn Taliesin.)

Dyna Hyfryd i Bore Sul!

Dw i’n codi’r bore Sul ‘ma’r syrpreis hyfryd; eira! Roeddwn i’n gweld haul yn dod drwy fy ffenestri ystafell gwely a meddyliais i “o, dim eira heddiw eto” (maen nhw wedi bod rhagweld eira i fis nawr, meddwl). Ond roeddwn i’n anghywir!

Snow on the Hill Behind My Flat

Felly, wrth gwrs, gafaelais i’n camera, taflais i rai dillad a rhedais i fas i dynnu lluniau cyn i eira doddi.

Snow on the Hill

Wel, ocê, efalle dyw e ddim yn cyffrous iawn iawn. Mae pawb wedi gweld eira. Ond fy eira cyntaf yn fy nghartref newydd yw e. Felly mae e’n arbennig iawn iawn i fi. Roedd hyd yn oed fy nghar yn derbyn tipyn bach!

Snow on my Car

Mae e’n hyfryd i fyw yn rhywle lle gallwch chi fynd am dro ar y traeth un dydd a mwynha eira’r nesaf.

content smilie