Aaaaa, siopa…….beth mae ffordd neis i ymlacio. Ac un diwrnod, bydda i’n cofio’r ffordd dweud Osytermouth yn Gymraeg heb fy ‘cheat sheet’.
Beth bynnag, roeddwn i wedi blino o eistedd o flaen y cyfrifiadur felly datganais fy annibyniaeth ac es i Ystumllwynarth i brynu anrhegion penblwydd i ffrindiau a rhywbeth i fy mam. Mae fy mam yn hoffi Cymru ond fydd hi byth yn ei gweld hi achos nid gall hi hedfan nawr. Felly dw i’n hoffi anfon pethau Cymreig ati hi nawr ac eto.
Wel, does dim siaradwyr Cymraeg yn fy hoff siop anrheg (neu lawer o siopiau yn Ystumllwynarth – gwaetha’r modd, ond dyna ni), ond gwnes i ffeindio siaradwr yn siopa olewydden. Roedd sgwrs neis ‘da ni a dysgais y gair ‘olewydden’ ohono fe. Hefyd, teimlais wych ar ôl hynny achos bod e’n dweud fy Nghymraeg yn ‘da iawn’! Bonws oedd hynny – roeddwn i jyst hapus deall yr hyn dywedodd.
Roedd llawer o draffig yn Ystumllwynarth fel arfer, ond dim llawer o bobol yn cerdded. Felly roedd hawdd i symud o gwmpas y dre. Cerddais ar stryd ochor a ffeindiais siopa siocled gyda siocled Cymreig o waith llaw. Wedyn cerddais lan y bryn drwy ffordd ochor gyda golygfa hyfryd o’r castell a baner Gymru newydd (cafodd y baner diwedd ei thorri). Hyfryd yw’r Ddraig Goch yn hedfan ar yr awel!
Mae popeth ‘da nhw yn Ystumllwynarth. Felly, pam lai prynu swper? Dw i’n hoffi’r math o siopa ‘ma – ymweld â siop fach yma a siop fach arall yna. Mae e’n un o’r ‘perks’ o fyw yng Nghymru. Does dim byd tebyg i hyn yng Nghaliffornia ‘da ni. Wel, ble roeddwn i’n byw beth bynnag.
Bant i’r gwerthwr pysgod i eog ffres, i’r grîn-groser i lysiau a lemon a dyna ni – pryd perffaith.
Felly, heno, dw i eithaf hapus ac edrych ymlaen at swper blasus. Bywyd yn dda weithiau, does dim dau amdani….