Dymunaf y gallwn bleidleisio, gwnawn yn yr eiliad a byddwn yn pleidleisio o blaid y refferendwm.
Y mae wedi bod llawer o siarad dros y blynyddoedd am dorri o Loegr Nawr, o’r diwedd, y mae gan Gymru cyfle digynsail cymryd cam enfawr ymlaen tuag at y toriad hwnna. Y mae cyfle i symud tipyn bach agosach i rywbeth nid ydy Cymru wedi profiad ers Llewelyn ap Gruffudd – annibyniaeth. Mae e’n gyfle anfon neges uchel tuag at Westminster bod Cymru yn gallu gwneud deddfau i’w hunan, llywodraethu ei hunan ac achub ei hiaith am genedlaethau i ddod o’i phobol.
Fel person sy’n dod o du mas Cymru, y mae’n hawdd dweud ‘dylen nhw wneud hyn neu hynny’. Ond, hefyd, y mae’n haws rhoi sylwi i’r manteision a’r anfanteision weithiau. Mae ofn arna yr os metha Cymru achub ar y cyfle hwn, y bydd e’n setlo’r wlad ar lwybr bant o annibyniaeth. Byddai’n anfon neges i Westminster bod Cymru yn hapus i gael y Sais, sy’n gwybod dim byd am fywyd yng Nghymru, rheoli’r wleidyddiaeth a llinynnau pwrs o’r wlad. Os digwyddir hynny, yn fy marn y byddai e’n gam enfawr tuag yn ôl a rhôi i Westminster cyfle cadw mwy dylanwad a mwy pŵer dros Gymru. Yn drist, y mwy rheol gyda Westminster, y llai cyfle’r gall Cymru dorri rydd.
Felly, er bod y refferendwm hwn yn llai na’r byddai llawer o bobl yn licio gweld, dechreuad yw fe’r bydd yn cadw Cymru ar y ffordd i ddatganoli.