Blodau yng Nghymru

Wel, fydda i ddim yn dweud wrthoch chi bod y post ‘ma yn ddiddorol.  Dyw e ddim, siŵr o fod.  Ond dw i’n moyn ysgrifennu rhywbeth heddiw, felly dw i wedi penderfynu ysgrifennu am flodau yng Nghymru a fy nhŷ.

Ers dw i wedi dod yn ôl i Gymru, dw i wedi bod teimlo domestig iawn iawn.  Dw i mor hapus i fod yn ôl adref, ‘sbo.  Beth bynnag, dw i wedi bod prynu pethau i’m adref – gorchuddion i’r golau (oedd dim ond ychydig ‘da fi o’r blaen), dodrefn i’r dillad cludais i fy hunan o Galiffornia, planhigion tŷ newydd, peiriant gwnïo, stwff fel hynny.

Dw i eithaf licio fy nhŷ nawr! 

Mae dim ond un darn o ddodrefn bod i eisiau; cwpwrdd llyfrau.  Dw i’n caru llyfrau.  Des i yma heb fy llyfrau (o wel, ocê – dim ond cwpl o lyfrau, doeddwn i ddim yn gallu gorfodi fy hunan i ddod heb UNRHYW o lyfrau o gwbl).  Beth bynnag, nawr, yn agos dwy flynedd ymlaen, mae dau gwpwrdd llyfrau yn y tŷ a dw i eisiau un mwy.  Wel, naill ai hynny neu dŷ mwy gyda chwpwrdd llyfrau ‘built-in’.

Hefyd, penderfynais i wneud rhywbeth yn yr ardd – tyfaf lysiau ac, wrth gwrs, blodau.  Mae’r blodau yng Nghymru yn bert yn anhygoel.

Pan ymwelais â Chymru’r tro cyntaf, roeddwn i’n ‘blown away’ gan y blodau. Dw i’n dal teimlo’r ffordd ‘na.

Blodau yn Llandeilo

Blodau yn Llandeilo

Felly, penderfynais fod eleni, byddwn i’n tyfu blodau hefyd.  Wel, wrth gwrs, roedd rhaid i fi deithio i Galiffornia am fis felly doeddwn i ddim yn gallu tyfu’r blodau fy hunan o hedyn .  Yn lle, prynais fasged o’r Gerddi Parc Singleton (maen nhw’n gwerthu planhigion ychwanegol bob bore Sadwrn yn y gwanwyn a haf).  Mae e’n gwneud popeth yn ymdangos disglairach (brighter?) yn blaen o’r tŷ, credu.

Blodau yn fy nhŷ

Blodau yn fy nhŷ

Ond dyna ddigon dim, hoffwn i gael blodau fel hyn:

Blodau Drws Nesaf

Blodau Drws Nesaf

Mae gardd Richard drws nesaf yw hynny.  Ar ôl iddo fe stopio chwarae rygbi am Gymru, daeth e  ‘landscape gardener’.  Felly, mae ei ardd yn edrych bendigedig bob amser.

Felly, mae nod arall ‘da fi – tyfaf ardd bert.  Nawr, ble i brynu rhaw…..

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s