Felly, pam, dw i’n moyn gwybod…….

Ddoe, derbyniais e-bost o rywun am yr iaith ym mhentref Penrhyndeudraeth.  Tynnodd dyn gwn awr ar berchennog tafarn Royal Oak (http://www.telegraph.co.uk/news/uknews/crime/8585746/Man-arrested-after-pulling-gun-during-pub-language-row.html).

Wel, nid dylai wneud hynny, wrth gwrs.  Ond dyw’r perchennog newydd ddim yn siarad Cymraeg – neu roedd hynny’n yr hyn oedd pobol yn meddwl (http://www.telegraph.co.uk/news/uknews/wales/8587445/In-Wales-mind-your-language.html).

Nid syndod – Aeth y newyddion BBC i’r pentref i siarad â phobol am broblemau iaith yn yr ardal.  Mae croestyniad gwastad yn newyddion diddorol wedi’r cyfan. Siaradon nhw â phobol sy’n siarad dim ond Saesneg ar y teledu.  Ond dywedodd pob un ohonyn rhywbeth fel, ‘No, I’ve never experienced any problems with Welsh speakers.’

Dywedon nhw wrth un ferch sy’n rhedeg siop.  Dw i ddim yn cofio nawr, ond dw i’n meddwl bod hi’n dod o Loegr yn wreiddiol.  Dywedodd hi rywbeth fel ‘ No, I’ve never had a problem.  You know it’s a Welsh speaking area so you just get used to it.’

Wel…..dyna ni ‘te.

Ond aros!  Beth am yn gwneud rhywbeth cwbl fisâr, rhywbeth ‘unheard of’, rhywbeth fel…..barod……LEARNING IT!

Wow, dyna gysyniad newydd – yn treulio’r amser i ddysgu Cymraeg felly does dim rhaid y bobol sy’n byw yn yr ardal siarad yn Saesneg – yn lle, gallan ddefnyddio eu hiaith hunan.

Dw i ddim yn ‘picking’ ar y ferch yn y siop yn arbennig – yr un peth yn cadw cywir i’r perchennog tafarn.  I bawb, mewn gwirionedd. Dw i ddim yn deall beth yw anodd am ddysgu i ddweud ‘cwrw’?  Beth am ‘gwin’?  Coffi?  Nawr, dyma anodd!  Coffi……

Fy mhwynt yw hyn:  Pam rhaid y siaradwr Cymraeg siarad yn Saesneg pan nid fydd pobol sy’n byw yn yr un ardal, yng Nghymru’n dysgu siarad Cymraeg?  Yn fy marn, dylai e fod eu cyfrifoldeb i ddysgu tipyn bach o’r iaith o leiaf(!) felly gallan ymuno â’r gymuned.  Nid y ffordd arall rownd.

Y Refferendwm Trwy Lygaid Americanes

Dymunaf y gallwn bleidleisio, gwnawn yn yr eiliad a byddwn yn pleidleisio o blaid y refferendwm.

Y mae wedi bod llawer o siarad dros y blynyddoedd am dorri o Loegr  Nawr, o’r diwedd, y mae gan Gymru cyfle digynsail cymryd cam enfawr ymlaen tuag at y toriad hwnna. Y mae cyfle i symud tipyn bach agosach i rywbeth nid ydy Cymru wedi profiad ers Llewelyn ap Gruffudd – annibyniaeth.  Mae e’n gyfle anfon neges uchel tuag at Westminster bod Cymru yn gallu gwneud deddfau i’w hunan, llywodraethu ei hunan ac achub ei hiaith am genedlaethau i ddod o’i phobol.

Fel person sy’n dod o du mas Cymru, y mae’n hawdd dweud ‘dylen nhw wneud hyn neu hynny’.  Ond, hefyd, y mae’n haws rhoi sylwi i’r manteision a’r anfanteision weithiau.  Mae ofn arna yr os metha Cymru achub ar y cyfle hwn, y bydd e’n setlo’r wlad ar lwybr bant o annibyniaeth.  Byddai’n anfon neges i Westminster bod Cymru yn hapus i gael y Sais, sy’n gwybod dim byd am fywyd yng Nghymru, rheoli’r wleidyddiaeth a llinynnau pwrs o’r wlad. Os digwyddir hynny, yn fy marn y byddai e’n gam enfawr tuag yn ôl a rhôi i Westminster cyfle cadw mwy dylanwad a mwy pŵer dros Gymru.  Yn drist, y mwy rheol gyda Westminster, y llai cyfle’r gall Cymru dorri rydd.

Felly, er bod y refferendwm hwn yn llai na’r byddai llawer o bobl yn licio gweld, dechreuad yw fe’r bydd yn cadw Cymru ar y ffordd i ddatganoli.

Bendigedig Iawn Iawn

Ac mae hyn yn y rheswm dw i’n caru Cymru!

Neithiwr es i Aberpennar chwarae cerddoriaeth werin gyda Geraint, Tracy a rhai o bobol arall o Ferthyr.  Wrth gwrs anghofiais ysgrifennu lawr yr enw tafarn.

Ro’n i’n meddwl ‘Fydd Aberpennar ddim yn fod mawr iawn siŵr o fod.  Dim ond un neu dau dafarn, reit?  Dim problem, bydda i’n ffeindio nhw.  Bydda i’n tecstio at Geraint pan cyrhaeddaf.”  Felly, bant es i am 7:30 yh.

Naddo.  Mae llawer o dafarnau yn Aberpennar.  Llawer!

Wel, yn amser da, cyrhaeddais yn Aberpennar.  Tecstiais at Geraint a gyrrais i mewn i ganol y ddinas a ffeindiais dafarn prysur.  Roedd grŵp o ferched yn cerdded i’r tafarn felly stopiais i ofyn am y tafarn.  Mae un o’r ferch yn siarad Cymraeg felly roedd hynny yn wych iawn!  Rhodd hi wybodaeth a chyfarwyddiadau yn Gymraeg.  “Os dych chi ddim yn ffeindio nhw, dewch yn ôl a ymunwch â ni i ddiod,” dywedodd hi.  Hyfryd iawn!

Dywedais ‘diolch yn fawr iawn’ ac es i’n ôl dros y bont a ffeindiais y maes parcio soniodd amdano heb broblem.  Gyda gitâr ar fy nghefn, dechreuais bant ffeindio’r tri thafarn soniodd amdano hefyd.

Roedd y stryd yn dywyll iawn a dim llawer o bobol yna.  Roedd e’n dangos fel cymdogaeth breswyl.  Ond, mae e’n edrych fel hynny yn Ystradfera hefyd felly parheais ymlaen.

Roedd cwpl yn cerdded lawr y stryd ata i.  Felly gofynnais iddyn nhw am y tafarnau.  Mwy defnyddiol roedden nhw.  Eithaf neis hefyd.  Roedden ni’n sgwrs tipyn bach a pharheais lan y bryn (stryd).

Wedyn, ar ôl tro byr, cyrhaeddais yn dafarn y cyntaf.  Roedd gwraig yn sefyll tu mas y drws.  Gofynais iddi hi os roedd gwrp cerddoriaeth werin tu mewn.  ‘Na’, meddai hi.  Ond dechreuon ni sgwrs – roedd twym neithiwr – hyd yn oed ar ôl tywyll.  Felly, safan ni tu mas yn siarad am hyn y hynny. Cawson ni dro ardderchog!

Beth bynnag, dywedodd hi ‘Paid â becso am y tafarn nesaf – dim byd yna.  Ond efallai’r un drws nesaf iddo fe’.  Dywedais ‘hwyl’ a mynd i’r tafarn nesaf.

Dim tafarn cywir ond dywedodd y dyn a merch yn sefyll tu mas ‘you can sing in here if you want’.

Hyfryd!

Ond dim diolch – dw i ddim yn barod i fynd solo. 

Felly, dywedais ‘na, diolch’ ac es i yn ôl i’r car.  Ar y ffordd yn ôl i’r car, cwrddais â’r wraig o tafarn y cyntaf.  Daeth hi yn ôl tu mas gyda chwpl o bobol eraill i ffeindio fi.  Dyn nhw wedi bod gofyn tu mewn ac roedd rhywun yn gwybod am y gig dros y pentref.  Dywedon nhw i fynd yn ôl drwy ganol y ddinas i’r clwb Nixon.  Roedd cerddoriaeth werin yna.

Gwych!

Yn y Clwb Nixon, cwrddais â mwy pobol neis ond dim Geraint a Thracy.  Felly, o’r diwedd, rhois y ffidil yn y to, gadais neges at Geraint ac es i yn ôl adre.  Ond roedd taith yn wych a mwyheais fy hunan yn fawr.  Cwrddais â llawer o bobol newydd, pobol neis a ffeindiais ffordd newydd i fynd i dai Annamarie a Diana yn Rhydyfelen.

Nes ymlaen, galwodd Tracy.  Does dim ‘reception’ ffôn symudol yn y tafarn.  Felly, doedden nhw ddim yn derbyn fy neges tan rhy hwyr.  Er hynny, dw i wedi gyrru heibio’r tafarn dwywaith!  O wel, tro nesaf.  Fydda i ddim yn anghofio ysgrifennu’r enw eto.

Yn y cyfamser, roedd profiad cofiadwy arbennig achos bod e’n ail-cadarnhau (reaffirm?) y pethau dw i’n caru mwyaf am Gymru – y bobol a’r diwylliant.

Gwahaniaethau

Mae pobol yn gofyn i fi “Beth ydy’r gwahaniaethau mwyaf rhwng Galiffornia a Chymru?”

Yn y gair:  Mesurau

Mae rhai gwahaniaethau mesur bod i’n hoffi.  Dw i’n lei gan ddau faint yn esgidiau a lei gan un maint yn ddillad.  Dim cwynion yna!

Mae’r problemau mwyaf ‘da fi’n pan geisiais brynu rhywbeth am y tŷ neu goginio rhywbeth.  Dw i ddim yn deall system fetrig o gwbl.  Hefyd, dyw ‘màths’ ddim yn fy mhwnc gorau – o, ffŵy (ffŵy=phooey=idioma Americanaidd yn ystyr ‘the heck with it’), gawn ni wyneb fe, pathedig dw i pan mae e’n dod i fathemateg.  Dw i ddim yn meddwl y ffordd ‘ma.

Cyrhaeddais yng Nghymru heb unrhywbeth.  Felly, ar ôl i fi yma, cludodd fy chwaer ychydig o lyfrau i fi – llyfrau Cymraeg, llyfrau rysáit a bocs dillad isaf.  Mae’r stwff pwysig.  :O)

Ond dim cwpanau mesur.  :O(

Prynais gwpanau mesur yma felly, wrth gwrs, maen nhw’n mesur Prydeinig.  Dim cymorth o gwbl pan defnyddio rysáit Americanaidd.

Beth bynnag, ar ôl yn agos dwy flynedd, dw i wedi rhoi’r ffidil yn y to ceisio trosi mesurau Americanaidd i fesurau Prydeinig. Dw i ddim yn moyn coginio o gwbl bellach, i ddweud y wir!  Dim yn dda – fel arfer dw i’n licio coginio.

Felly, pan es i’n ôl i Galiffornia dros yr haf a roeddwn yna am amser hir yn mynd trwy stwff fy Mam, penderfynais dod â fy stwff o storfa ac edrych trwy hynny hefyd; ‘get rid of’ pethau doeddwn i ddim yn moyn i ddod â yma.  Roedd syniad da, credu.  Cyn i fi adael Califfornia, aeth rhai stwff yn ôl mewn storfa a chludais rhai stwff i fy hunan yng Nghymru; yn gynnwys dyfeisiau’n mesur.  Nawr gallaf goginio eto!  Ie!!!

Anfonais lawer o stwff eraill i fy hunan hefyd.  Dw i’n credu bod hanner fy nhŷ yw yma nawr!  Felly man a man dod â’r gweddill, iawn?  Iawn.

Gobeithio bod i’n gallu ffeindio gwaith ar ôl graddio – yma yw fy adref nawr.  Hoffwn aros.

Cymaint Cestyll, Cyn Lleied o Amser

Wrth gwrs, ar goll oeddwn i.  Fel gwastad, Daeth taith arall i fod antur achos ar y ffordd yn ôl o Ddinbych-y-pysgod, roeddwn i wedi colli’r troi at Gaerfyrddin ac yn fuan ffeindiais fy hunan eistedd yn y glaw, rhywle yn ne orllewin Cymru.

Dim ots, darganfûm gastell!  Ac eithaf darganfyddiad oedd e hefyd – Woo Hoo!

P8272465

Roedd Castell Llawhaden a chafodd y castell ‘ma ei adeilad gan Esgob Bernard am 1115.  Bryd Hynny roedd yr esgobion Tyddewi adeiladu preswylfeydd o fewn yr esgobaeth.  Esgob Bernard oedd adeiladwr cyntaf o Gastell Llawhaden.  Does dim llawer o’r castell gwreiddiol yn aros nawr – dim ond llethr pridd mawr a’r ffos.

P8272470

Wedyn, yn 1362, penderfynodd Esgob Adam de Houghton ailadeiladu’r castell.  Felly, mae llawer o’r garreg yn eu dyddio i bryd hynny.

P8272472

Yn wreiddiol, roedd y castell ‘ma yn enfawr!  Heddiw, er does dim llawer o leoedd ar gau nawr, dych chi’n gallu gweld y maint.  Mae CADW wedi darparu darlun:

P8272460

Does dim tâl i edrych ar Gastell Llawhaden.  Mae e’n byw yn ben o’r lôn fach felly rhaid i chi gerdded tipyn bach o’r maes parcio.  Dim lan y bryd serth er hynny.

P8272457

Roedd darganfyddiad yn fendigedig.  Fel diwedd arbennig, unwaith yn ôl y car, cwrddais â dwy laslances sy’n gwybod y ffordd at Gaerfyrddin.  Maen nhw’n siarad Cymraeg felly gallais ddweud wrthyn nhw yn Gymraeg a dysgais i ffordd gywir hefyd.  Hyfryd iawn!

P8272466

Ymddiheuro Am Defnyddio Cymraeg?….

Dim ar dy fywyd! Rhywbeth yw hwn y fydda i ddim yn gwneud – atalnod llawn.  Os dyw rhywun ddim yn deall, wedyn bydda i’n cyfieithu.  Ond fydda i ddim yn dweud ‘O, I’m sorry’ yn gyntaf ac wedyn cyfieithu.

Wrth gwrs, bydd pawb yn siarad am hyn ac mae’n ymddangos i fod llawer o storïau.  Fel efallai byddwch chi’n dychmygu, ar y teledu hefyd; S4C a BBC Cymru:

BBC Newyddion

Daily Post Gogledd Cymru (Saesneg)

Chronicle Gogledd Cymru
(Saesneg)

Sori, allais i ddim yn ffeindio fersiwn Cymraeg o’r storïau Daily Post a Chronicle.

Wel, dw i’n deall y rheswm bod Cefyn Roberts yn ymddiheuro, ond yn fy marn, ddylai e ddim cael.  Achos wnaeth y bobol ‘ma ddim yn eu haeddu o hynny. Hefyd, ddylen nhw ddim yn dodi Mr. Roberts yn y sefyllfa ‘na.

Roeddwn i’n siarad â’m cymydog drws nesaf ar ôl i edrych ar y stori ‘ma ar y teledu.  Does dim Cymraeg ‘da fe ond Cymro yw e.  Roedd hyd yn oed e’n ddig amdano fe achos cytunodd y dylai siaradwyr allu defnyddio’r Iaith os maen nhw’n moyn.  Dywedais wrtho fe:  “Yr wir! Dim ots bod person ddim yn siarad Cymraeg.  Os dych chi yn wlad gyda’r iaith arall, a dych chi’n mynychu digwyddiad erbyn dych chi yna, dych chi ddim yn disgwyl y perfformwyr i siarad yn EICH iaith, iawn?  Felly pam dylai Cymru i fod gwahanol?”

Ar y teledu BBC Cymru, roedden nhw’n siarad â phobol ar y stryd yn Llandudno.  Dywedodd y dyn (dim dyfynnod union) ‘Well I thought there should be more English because I don’t understand Welsh.  But then I’m here on holiday from England.’

Wel, nawr, dyna reswm da i newid popeth yng Nghymru – i addasu fe!

Ocê, chwarae teg, dw i’n credu bod e’n dweud hynny ‘tongue in cheek’.  Ond dyna bobol sy’n meddwl fel hynny, dw i’n gwybod.

Trueni oedd e.  Nawr, mae ychydig o bobol hunanol wedi andwyo perfformiad hyfryd, y noswaith o bobloedd eraill a chreasant lanast mawr.

Efallai roedden nhw’n meddwl y byddai rhywbeth fel hyn yn affeithio’r Iaith.  Na fyddai.  I fi, nawr dw i’n moyn gweithio mwy caled cadw’r Iaith yn ei thyfu.