Mas Gyda Chi Mewnfudwyr!

Arhoswch bant ‘you bums’ – dyn ni ddim yn moyn chi yma.  Wel, heblaw os dych chi’n dod o’r EU.  Dim ots nad siaradwch Saesneg neu Gymraeg.  Dim ots does dim arian gyda chi neu dim sgiliau gyda chi.  Mae’n iawn!  Croeso i Gymru!  Croseo i’r Deyrnas Unedig.  Dim arian? Paid â becso! Dim gwaith?  Paid â becso!  Allwch chi yrru?  ‘sort of’?  Wel, paid â becso!

Reit.  Ond does dim yr un peth i fi neu unrhywun arall o ‘one of those Godawful non-EU countries!’

Wel, sa i’n teimlo croeso bellach. Yn siŵr dim ar ôl i fi wrando ar y gwleidyddion yn siarad.  Ac mae hynny yn rhoi tristwch i fi.  Dw i wedi dod i Gymru achos bod i’n caru’r lle – popeth amdani hi.  Dw i wedi gweithio caled iawn i creu cartref newydd i fy hunan yma.  Dw i’n meddwl bod llawer i gynnig i Gymru ‘da fi ac doeddwn i ddim yn dod yma i freeload, chi’mod?

Ond pan dw i wedi gorffen yn y brifysgol, bydd rhaid i fi fynd nôl i Galiffornia mae’n debyg.  O leiaf os mae’r gwleidyddion yn gael eu ffordd.  Dim achos does dim sgiliau gyda fi.  Dim achos does dim gwerth i Gymru gyda fi.  Dim achos troseddwraig dw i.

Wel, pam ‘te?

Achos, yn ôl y gwleidyddion, un o’r RHEINY pobol ofnadwy sy’n dod o wlad tu mas yr EU dw i.

Nawr, mae pawb yn siarad am yn cyfyngu’r nifer mewnfudwyr o wledydd tu mas y EU. Conservatives:  “Support Labour’s Points-Based System, but also establish an annual limit for non-EU economic migrants.”

AC maen nhw’n siarad am newid i ddulliau i ennill dinasyddiaeth. Labour: “Break the automatic link between staying in the UK for a set period and being able to settle or gain citizenship.”

Mae Liberal Democrats yn moyn “Increase cost to business of work permits for immigrant employees to pay for training British workers” – wel, yn barod, mae’r busnesoedd yn petruso cyflogi o tu mas yr EU achos o waith papur arbennig.

Dw i’n cefnogi Plaid, wrth grws.  Mae Plaid yn dweud: “We condemn the point-scoring used by other parties and the pandering to unfounded xenophobic prejudices in the debate on immigration.”  Er hynny, dw i’n siŵr y rhaid iddyn nhw gael mwy o bolisi na hynny.  Ond dim ots, really.  Bydd dim Prif Weinidog DU o Blaid.

Yn eiriau eraill, mae ods yn dweud y fydda i ddim yn gallu aros yng Nghymru ar ôl graddio.  Ac os yr achos yw hynny, bydd e’n torri’m nghalon. 

Yn amlwg, dw i’n siŵr y bydd mwy i’r polisiau ‘ma na jyst hynny.  Yn dal, fydd e ddim yn hawdd i unrhywun fel fy hunan.   Yn barod, mae llawer o ‘hoops’ rhaid i fi neidio draw i fod yma.  Felly, dw i’n gobeithio y byddwch chi’n deall os dw i’n cwyno am y rhagolwg o rhywbeth arall.

Efallai dylwn i wneud bywyd hawdd i fy hunan a symud i Wlad Pwyl, dod dinesydd yna ac wedyn gallaf symud yn ôl i mewn i Gymru heb problem.

2 thoughts on “Mas Gyda Chi Mewnfudwyr!

  1. Syniad dim. Dw i’n deall yr ymresymiad ond dyw hynny ddim yn ystyr y rhaid i fi fod hapus amdano fe. Hunanol dw i – hoffwn fy mywyd i fod haws, dim mwy cymhleth. Hoffwn allu canolbwyntio ar fy astudiaethau, dim becso am ‘checking in’ cant o weithiau felly gallant gadw ‘track’ ohona i. Mae’r brifysgol yn gwneud rhestri presenoldeb yn pob darlith a phob arholiad. Dylai hynny i fod digon, dw i’n credu.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s