Ddoe, derbyniais e-bost o rywun am yr iaith ym mhentref Penrhyndeudraeth. Tynnodd dyn gwn awr ar berchennog tafarn Royal Oak (http://www.telegraph.co.uk/news/uknews/crime/8585746/Man-arrested-after-pulling-gun-during-pub-language-row.html).
Wel, nid dylai wneud hynny, wrth gwrs. Ond dyw’r perchennog newydd ddim yn siarad Cymraeg – neu roedd hynny’n yr hyn oedd pobol yn meddwl (http://www.telegraph.co.uk/news/uknews/wales/8587445/In-Wales-mind-your-language.html).
Nid syndod – Aeth y newyddion BBC i’r pentref i siarad â phobol am broblemau iaith yn yr ardal. Mae croestyniad gwastad yn newyddion diddorol wedi’r cyfan. Siaradon nhw â phobol sy’n siarad dim ond Saesneg ar y teledu. Ond dywedodd pob un ohonyn rhywbeth fel, ‘No, I’ve never experienced any problems with Welsh speakers.’
Dywedon nhw wrth un ferch sy’n rhedeg siop. Dw i ddim yn cofio nawr, ond dw i’n meddwl bod hi’n dod o Loegr yn wreiddiol. Dywedodd hi rywbeth fel ‘ No, I’ve never had a problem. You know it’s a Welsh speaking area so you just get used to it.’
Wel…..dyna ni ‘te.
Ond aros! Beth am yn gwneud rhywbeth cwbl fisâr, rhywbeth ‘unheard of’, rhywbeth fel…..barod……LEARNING IT!
Wow, dyna gysyniad newydd – yn treulio’r amser i ddysgu Cymraeg felly does dim rhaid y bobol sy’n byw yn yr ardal siarad yn Saesneg – yn lle, gallan ddefnyddio eu hiaith hunan.
Dw i ddim yn ‘picking’ ar y ferch yn y siop yn arbennig – yr un peth yn cadw cywir i’r perchennog tafarn. I bawb, mewn gwirionedd. Dw i ddim yn deall beth yw anodd am ddysgu i ddweud ‘cwrw’? Beth am ‘gwin’? Coffi? Nawr, dyma anodd! Coffi……
Fy mhwynt yw hyn: Pam rhaid y siaradwr Cymraeg siarad yn Saesneg pan nid fydd pobol sy’n byw yn yr un ardal, yng Nghymru’n dysgu siarad Cymraeg? Yn fy marn, dylai e fod eu cyfrifoldeb i ddysgu tipyn bach o’r iaith o leiaf(!) felly gallan ymuno â’r gymuned. Nid y ffordd arall rownd.