Ie, heddiw yw fy mhenblwydd. Na, dw i ddim yn dweud fy oed. Ac, os wyt ti’n nabod fi a gwybod fy oed, paid dweud! Dw i wedi anghofio’r wybodaeth ‘na – wel, dw i’n ceisio i anghofio beth bynnag.
Yfory, dw i’n bant i Harlech i’r Arbrawf Mawr. Dw i’n edrych ymlaen at hynny yn fawr. Mae Jonathan a’i wraig yn dod o Derby. Dw i ddim wedi eu gweld nhw ers amryw fisoedd a bydd e’n dda iawn eu gweld nhw eto. Mae Jonathan yn chwarae flute ac acordion (ac offerynnau eraill, mae’n debyg) ac mae e arfer chwarae gyda ni yn nosau cerddoriaeth werin Cymraeg Nhŷ Tawe cyn iddyn nhw symud un ôl i Derby.
Dw i’n meddwl y bydd y daith ‘ma’n herio achos bydd y rhan fwyaf pobol yn siarad Cymraeg trwy’r amser. Felly dw i’n mynd ceisio i wneud yr un. Bydd hynny yn anodd i fi achos dw i ddim yn gwybod llawer o eiriau. Ond, caf i lawer o hwyl cwrdd â phobol newydd a siarad Cymraeg â nhw felly dw i ddim rhy becso amdano fe. Bydd e’n ymarfer da iawn a bydda i’n gallu dysgu mwy cerddoriaeth werin Cymraeg. Felly mae e’n benwythnos ennill-ennill fel bydda i’n gallu gwneud dwy peth bod i’n caru ar yr un pryd.