Mae Gwyn wedi dod yn ôl!

Felly, does dim angen i ddweud: dw i’n hapus iawn!

Er hynny, Stopiodd yn y bore doe ac wedyn aeth e mas eto. Dw i ddim wedi edrych arno ers yna. Ymddygiad od iawn. Dim ots, sbo. Dw i’n jyst hapus i wybod bod popeth yn iawn gyda fe.

Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ‘fory. Gallaf edrych ar Gymru yn chwarae erbyn Ffrainc yn y bore. Bydd BBC yn darlledu’r em am 8:00 o’gloch yn y bore amser Califfornia. Ar ôl hynny, bydda i’n galw dros at stiwdio chrochenwaith, credu. Dw i wedi gorffen cwpl o botiau’r wythnos diwethaf ‘na. Dylen nhw fod parod gan brynhawn dydd Sadwrn.

Mae llawer o ddiddordeb ‘da fi yn gwneud crochenwaith ar hyn o bryd. Dyma focs bach gwnes am flwyddyn yn ôl. Mae hi’n ymddangos fel lledr ond mae hi wedi ei gwneud o glai ‘Electric Brown’. Dw i’n falch iawn ohoni a dw i’n mwynhau’r gwaith crochenwaith.  :O)

Bocs crochenwaith gan Pegi Rodgers