Yn wreiddiol roeddwn i’n mynd treulio amser ceisio i ffeindio siwt nofio yn Fforestfach. Ond trodd y tywydd neis felly penderfynais yrru i Gaerfyrddin a ffeindio’r Tafarn 3 Eog yn lle. Pam y tafarn ‘na? Wel, bydd gig Cymdeithas yr Iaith yn digwydd yna wythnos ‘ma a dw i’n bwriadu mynd. Ers dw i wastad cael fy colli, dw i wedi dysgu i ffeindio lleoedd cyn i fi fynd.
Beth bynnag, es i Gaerfyrddin prynhawn ‘ma ar ôl stopio yng Nghilâ i lysiau. I fy syrpreis, mae dyn yn y siop llysiau yn siarad Cymraeg! Gwych! Nawr bydda i’n siopa yna mwy aml.
Bant i Gaerfyrddin. Stopiais yn McDonalds i Coke. “Ga i Coke, os gwelwch yn dda. Canol. I fynd.” meddai fi, eithaf balch i ddweud hynny gyda chyflym cywir. Meddyliais fod y plentyn tu ôl y cownter yn deall fi. Na! Rhodd Coke Diet i fi (ych-y-fi! Dw i’n casiáu Coke Diet). Yn drist, doeddwn i ddim yn darganfod hynny tan roeddwn yn ôl ar y ffordd. :O(
‘Still’, dywedais bopeth yn Gymraeg felly dim ots!
Wrth gwrs, allais i ddim yn ffeindio’r stryd bod i’n moyn. Felly ar ôl tamaid bach o amser, stopiais yn Uwchfarchnad Tesco meddwl y bydd map ‘da nhw. Wel, dim yn y brif siop. Gofynnais y swyddog diogelwch am fap. Cymro Cymraeg yw e! Gwych iawn iawn iawn. Cawson ni sgwrs neis iawn gan mwyaf yn Gymraeg. Dywedodd e fy Nghymraeg yn dda iawn. Dych chi’n meddwl bod ‘chuffed to bits and pieces’ dw i? 
AC deallais bron popeth bod e’n dweud. Siaradasom am rygbi, pêl-droed Americanaidd, ei swydd, yr ynganiad gwahanol o bobol yn ardaloedd gwahanol o Grymu, y rhif o siaradwyr Cymraeg yn Abertawe, Caerfyrddin a Llanelli – jyst llawer o destunau gwahanol. O – hyfryd iawn.
Dwbl Neis yw e pan ddych chi’n siarad â dieithryn ac maen nhw’n gallu deall chi a chi nhw. Dw i ddim yn gallu disgrifio beth teimlad gwych yw hynny!
Doeddwn i ddim yn siarad fel iawn â’r gwragedd yn yr orsaf petrol ble es i’r map. Roeddwn i’n ‘tongue-tied’ pan trialais ddweud ‘diolch am eich cymorth’. Dw i’n meddwl, efallai, achos bod i ddim arfer defnyddio ‘eich’ yn hytrach na ‘ti’.
Dim ots. Ffeindiais Tafarn 3 Eog, roeddwn i’n gallu ymarfer fy Nghymraeg, a mwynheais fy mhrynhawn yn fawr.
O, dw i mor yn caru gyda’r iaith ‘ma!
Cymraeg Am Byth!!! 