Yep. Dw i wedi gorffen yn y brifysgol. Nid oeddwn i’n meddwl y byddwn i’n edrych ar y dydd, erioed! Dw i ddim yn siŵr eto beth bydd fy marciau – dw i’n aros i glywed o’r Academi Hywel Teifi – ond mae syniad cyffredin ‘da fi. Dw i’n falch ond siomedig yr yn pryd. Dw i’n hapus i gael pasio ac enillodd fy ngradd. Ond siomedig achos mod i wedi disgwyl (a moyn) siarad yr iaith yn rhugl erbyn hyn. Dw i ddim wedi gwneud hynny – dim o gwbl. Felly, mae e’n rhwng bodd ac anfodd gadaf Brifysgol Abertawe.
Beth nesaf?
Wel, bydda i’n mynd yn ôl i Galiffornia yn ddiwedd mis Gorffennaf. Mae hyn wedi bod penderfyniad anodd iawn i fi. Yn rhan achos bydd e’n ystyr yn dechrau eto – does dim unrhywbeth heblaw rhai dodrefn yng Nghaliffornia ‘da fi; dim gwaith, dim car, dim llawer o unrhywbeth. Dw i ddim yn gwybod ble bydda i’n byw hyd yn oed! Mae Cymru wedi dod cartref i fi ac mae fy nghath yna, fy nghar, fy mhlanhigion, fy ffrindiau, yr iaith, fy mywyd, mewn gwirionedd.
Hefyd, dw i wedi gweithio caled i ffitio i mewn y diwylliant – dyna lawer i ddysgu pan dewch i mewn diwylliant newydd. Dweud y gwir, do’n i ddim y sylweddoli faint! Mae’r pethau bach yn anoddach; pethau bod chi ddim yn meddwl amdanyn. Pethau nid fyddwch yn sylwi tan geisiwch ymdopi â nhw.
Ond, nid gallaf aros. Byddwn i’n peryglu popeth os arhosaf obeithio i ffeindio gwaith. Achos ymfudwr rhyngwladol dw i, does dim rhaid i fi ffeindio jyst unrhyw swydd – na! Rhaid i fi ffeindio gwaith â chwmni y bydd e’n piau caniatâd i gyflogi person rhyngwladol. A hefyd, rhaid iddyn addo bod nhw’n ceisio ffeindio rhywun yn y EU yn gyntaf. Hynny, ychwanegol y rheolau visa newydd (nid i sôn cost – ych-y-fi!) a fy oed….wel, let’s face it, the odds are stacked against me. Rhaid i fi gyfaddef, dyw e ddim yn haws i deimlo bod i ddim cael fy moyn yma. Mae’r syniad ‘na yn rhy drist ond does dim unrhywbeth personol, dw i’n siŵr – dw i ddim ar ben fy hunan a rhaid i lywodraeth wneud rhywbeth i reoli mewnfudiad. Pe fyddwn yn ifancach, byddwn i’n ymladd aros – cymryd y perygl. Ond nid nawr.
Efallai, dw i’n swnio trist iawn. Yn y ffordd, dw i’n teimlo fel hynny – dw i’n gadael cartref wedi’r cyfan. Ond, mae llawer i edrych ymlaen ato hefyd. Gallaf dreulio amser gyda fy nheulu (dim ond fy chwaer nawr) a, efallai, prynaf dŷ o’m hunan. A, dweud y gwir, mae llawer bod i’n colli o Galiffornia hefyd. Felly nid cwbl ddrwg.
Mae e wedi bod profiad cyffrous, anodd, trist a gorfoleddus; anturiaeth fendigedig ac nad fyddwn yn cyfnewid y pedair blynedd diwethaf ‘ma am unrhywbeth yn y byd! Dw i wedi cael cyfle anghyffredin achos ers mod i ferch fach, dw i wedi moyn byw ym Mhrydain – felly, dw i wedi byw’r breuddwyd ‘na.
Dw i wedi dysgu cymaint ar y daith syfrdanol ‘ma. Dw i ddim wedi bod mewn diwylliant newydd o’r blaen erioed, ‘heck’ – prin mod i wedi bod tu mas o Galiffornia o’r blaen! Felly, dw i’n mynd yn ôl person gwahanol – person gwell, credaf.
Des yma gyda dim byd ond siwtces. Byddaf yn gadael gyda chalon lawn.