Sori – dyw’r teitl ddim yn gallu gweithio yn y Gymraeg. Ond mae e’n disgrifio’r digwyddiad yn berffaith! Taith siopa fendigedig.
Es i Tesco Llanelli prynhawn ‘ma. Penderfynais brynu pysgod i ginio. Felly, cerddais i gefn y siop at y gwerthwr pysgod. Ers mod i yn Llanelli, ro’n i’n moyn defnyddio Cymraeg, nid Saesneg. Mae llawer o bobl sy’n siarad Cymraeg yn Llanelli wedi’r cyfan.
Wel, fel arfer, bydda i’n gofyn “Dych chi’n siarad Cymraeg?” cyn i fi siarad yn y Gymraeg. Nid heddiw. Dechreuais yn y Gymraeg a pharhau siarad yn y Gymraeg. Yn anffodus, dyw’r gwerthwr pysgod ddim yn siarad y Gymraeg. Ond roedd e’n gallu deall yr hyn dywedais. Felly, es i ymlaen gofyn i bethau yn Gymraeg ac ateb ei gwestiynau Saesneg yn Gymraeg. Roedd e’n ardderchog!
Mae e’n teimlo mor neis i ddweud popeth yn y Gymraeg!