Wel, gyda mae profiad gwaith yn cwpla nawr, mae e’n ôl i’r brifysgol. Tipyn bach fel mynd o’r badell ffrio mewn tân. Ond mwynheais brofiad gwaith yn fawr. Gweithiais yn swyddfa Menter Iaith Abertawe a dysgais lawer o wybodaeth ddiddorol am y gymdeithas. Ces i drafod diddorol gyda Dai, Prif Swyddog, am yr hanes yr iaith ac mae’r dulliau dysgu yn eu defnyddio heddiw. Dw i ddim yn dal moyn dysgu Cymraeg. Ond hoffwn ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg os mae fy ffordd yn arwain y ffordd ‘na. Os dim, dw i’n meddwl y bydda i’n gweithio yn swyddfa siarad-Cymraeg (Welsh-speaking office) fel dyna rywbeth arbennig am siarad Cymraeg a dim ond Cymraeg. Naill ai ffordd, bydda i’n gwneud fy ngradd Masters am yr hanes yr iaith.
Newyddion o’r blaen. (haha) Mae’r Adran Cymraeg wedi ehangu dosbarth ac ychwanegon nhw arall. Hefyd, dyn ni’n mynd i rywle yng Ngogledd Cymru ar daith maes. Does neb yn gwybod ble neu pan, ond dyna ni. ‘Mystery Trip’. Mae Mrs. Sidgwick yn dweud y dylen ni baratoi i’r daith. Shwd? Gallwn ‘dust off’ fy nghês dillad ‘sbo. Reit! Mae e’n swnio fel hwyl, do fe? (dim)
Beth bynnag, mae’r etholiad Americanaidd wedi bod a mynd. Rhaid i fi ddweud bod wrth yn hapus iawn iawn gyda’r canlyniad. Dw i ddim yn gwybod bydd beth, os unrhywbeth, yn newid, ond o leiaf nawr mae gobaith ‘da ni. Mae fy nheulu yn dweud bod pobol yn yr Unol Daleithiau’n teimlo gwella am bopeth nawr. Dw i’n falch. Pan mae gobaith gyda phobol, dyw pethau ddim yn ymddangos fel drwg, chi’mod?
Ar y blaen cartref, mae Babi Gwyn yn tyfu yn gyflym! 12 wythnos oed yw e nawr. Ddoe, roedd e’n darganfod bod e’n gallu mynd unrhywle. Felly nawr mae e’n ar ben o bopeth! Dw i wedi bod symud planhigion a ‘knick knacks’ fel ‘mad’ yn trial i gynnal gyda fe. Yn drist, ffeindiodd fy nghasgliad cregyn môr bore ‘ma. Mae e’n meddwl bod fe maen nhw! Nawr fy nghasgliad cregyn yn rhywle!
Wel, dw i’n credu bod i wedi ysgrifennu digon – ymarfer côr heno a rhaid i fi stopio a ffeindiaf rywbeth i fwyta (dyn ni’n canu sawl canion hyfryd ar hyn o bryd). Ond rhaid i fi ddweud bod e’n neis iawn iawn i gael amser digon ysgrifennu ar fy mlog. Dw i wedi colli hyn.