Wel, mae e wedi bod amser hir ers mod i wedi ysgrifennu. Doedd ddim wedi bod llawer i ysgrifennu amdano. Mae e’n cymryd am saith mis i ffeindio swydd felly do’n i ddim wedi bod hapus iawn. Yn olaf, nawr, dw i’n gweithio am Sir Marin fel Ysgrifennwraig We. Yn anfoddus, dw i’n dechrau anghofio’r Gymraeg felly dw i wedi penderfynu ceisio ysgrifennu bob dydd ar y blog. Dw i’n dal caru’r iaith a dw i ddim yn moyn anghofio hi.
Dw i wedi bod edrych ar rygbi Six Nations – wel, gymaint a gallaf achos bod BBC America ddim yn darlledu beth maen nhw’n addo! Er hynny, rhaid i fi ddweud, dw i’n falch iawn iawn o’r bois. Da iawn chi!
Wel, byr heddiw – rhaid i fi weithio nawr. Ond, gobeithio’r byddaf yn parhau ysgrifennu nawr – mae e’n teimlo ardderchog i defnyddio’r Gymraeg eto!
Croeso ‘nôl!
Diolch yn fawr!
Braf gweld dy fod ti’n sgwennu yn yr hen iaith unwaith eto. Dal ati!
Diolch yn fawr, Jonathan. Gobeithio bod popeth yn iawn gyda ti. :O)
Peggi, ydy mae pob dim yn iawn diolch, dw i’n picio draw i Gymru ar ddydd Sadwrn i gwrs undydd yngyl a enwau lleodd yn Wrecsam.
Gwych Jonathan. Mae hynny’n swnio fel hwyl. Gobeithio mwynheaist y cwrs.