Byw yn America

Wel, mae e wedi bod amser hir ers mod i wedi ysgrifennu. Doedd ddim wedi bod llawer i ysgrifennu amdano. Mae e’n cymryd am saith mis i ffeindio swydd felly do’n i ddim wedi bod hapus iawn. Yn olaf, nawr, dw i’n gweithio am Sir Marin fel Ysgrifennwraig We. Yn anfoddus, dw i’n dechrau anghofio’r Gymraeg felly dw i wedi penderfynu ceisio ysgrifennu bob dydd ar y blog. Dw i’n dal caru’r iaith a dw i ddim yn moyn anghofio hi.

Dw i wedi bod edrych ar rygbi Six Nations – wel, gymaint a gallaf achos bod BBC America ddim yn darlledu beth maen nhw’n addo! Er hynny, rhaid i fi ddweud, dw i’n falch iawn iawn o’r bois. Da iawn chi!

Wel, byr heddiw – rhaid i fi weithio nawr. Ond, gobeithio’r byddaf yn parhau ysgrifennu nawr – mae e’n teimlo ardderchog i defnyddio’r Gymraeg eto!

Trial Eto

Wel, dw i’n cystadlu yn Yr Eisteddfod eto.  Dw i ddim yn disgwyl ennill, mae gobaith ‘da fi, wrth gwrs.  Ond, yn realistig does dim cyfle.  Dw i’n cystadlu erbyn dysgwyr sy wedi bod dysgu am 10 neu 15 mlynedd.  Dw i ddim yn ddigon da eto.  Ond dim ots, Yr Eisteddfod yw hi!

Mae rhywbeth cyffroes iawn am Yr Eisteddfod.  Mae digwyddiad arbennig iawn.  Does dim digwyddiad fel hi unrhywle arall yn y byd.  Tu hwnt y seremonïau a’r bythau mae’r iaith.   Ac arbennig iawn yw’r iaith.

Dw i wedi bod ysgrifennu llawer am yr iaith yn hwyr.  Mae e’n rhan o’r Hanes Cymru yn y brifysgol.  Felly, dw i wedi ysgrifennu traethawd arni hi.  Mae’n ymddangos y mwy ymchwiliais, y mwy chwilfrydig oedd y pwnt.  Efallai achos o hynny, dw i’n credu, anghywir neu gywir, does dim diwylliant Cymru heb Gymraeg.  Mae’R Eisteddfod yn enghraifft yn dda o hynny.   Heb Gymraeg, dw i ddim yn meddwl y byddai’R Eisteddfod yr un.  Jyst fy marn wrth gwrs, ond dyna ni.

Beth bynnag, dw i wedi mynd bant o’r pwnt nawr felly bydda i jyst dweud bod i’n falch iawn gallu cymryd rhan yn y digwyddiad Cymry traddodiadol ‘ma.

Dymunwch lwc i fi!