Y Flwyddyn Nesaf

Wel, dw i’n falch dweud bod i’n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn y brifysgol.  Fy mlwyddyn olaf bydd hi (ie!!), felly dyna dda.  Ond hefyd, dw i’n teimlo cyffrous am y dosbarthiadau y gallaf wneud.

Yn hanes, bydda i’n ysgrifennu traethawd mawr (rhai 10,000 gair) am Llywelyn ap Gruffudd.  Mae’r Adran Hanes Prifysgol Abertawe wedi bod gwych, rhaid i fi ddweud.  Maen nhw’n gwybod bod diddordeb yn hanes Cymru ‘da fi.  Felly, drwy’r amser dw i wedi bod gallu arbenigo yn hanes Cyrmu yn lle hanes cyffredin.

Dw i’n moyn gwneud mwy Cymraeg y flwyddyn nesaf er hynny.  Doedd dim digon  ‘da fi eleni felly roeddwn i’n ymuno â dau ddosbarth ychwanegol heb gredyd.  Y flwyddyn nesaf, dw i’n bwriadu gwneud llawer o Gymraeg ac mae’r  dewision yn fendigedig, dw i’n credu.  Dw i’n gobeithio gwneud:

Ymarfer Iaith: Bwriad y modiwl gorfodol hwn yw meithrin a datblygu sgiliau ieithyddol y myfyrwyr, yn ysgrifenedig ac ar lafar, a dwysáu eu dirnadaeth o deithi’r iaith a’i chyweiriau.  Yn y sesiynau llafar canolbwyntir ar sgiliau cyflwyno, a hyfforddir y myfyrwyr i ddefnyddio Microsoft Powerpoint.

Ysgrifennu Creadigol: Bydd y myfyrwyr wedi llunio ffolio neu gyfrol o waith a fydd yn estyniad ar y maes llafur a arholwyd yn CY-205.

Beirdd y Tywysogion: Detholiad o gerddi rhai o Feirdd y Tywysogion—eu canu crefyddol, eu canu serch, ond yn bennaf y canu sydd yn cynrychioli eu holl raison d’être, sef canu mawl i dywysogion yr oes.

Twf y Canu Rhydd: Bydd y myfyrwyr yn gyfarwydd â thwf y canu rhydd o’r 17 ganrif hyd ail hanner y 19 ganrif, ac yn medru trafod mesurau, themâu pwysicaf a swyddogaeth gymdeithasol y canu hwnnw.

Y Nofel: Bydd y myfyrwyr yn gallu trafod arwyddocâd detholiad o nofelau pwysicaf  y Gymraeg yng nghyd-destun datblygiad cyffredinol y ffurf.

Llên y Cymoedd: Bydd y myfyrwyr yn ymwybodol o gyfoeth traddodiad llenyddol de-ddwyrain Cymru yn y cyfnod diweddar, ac yn medru trafod amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.

Diwrnod mawr bydd yfory fel byddwn ni’n gallu dewis eu dosbarthiadau Cymraeg ac wedyn bydd llawer i feddwl amdano dros yr haf, i fod siŵr!

One thought on “Y Flwyddyn Nesaf

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s