Fy Nghanlyniadau Eisteddfod

Cystadlais i ddau gategori dysgwr eleni, Cadair a Thlws Rhyddiaith. Roeddwn i wedi gobeithio ennill, wrth gwrs, ond doeddwn i ddim yn disgwyl.

Yn gyflawn, dw i’n falch o’m hunan i’n ceisio a hapus gyda’r sylwadau beirniad, er doeddwn i ddim yn ysgrifennu cerdd bod nhw’n hoffi, doeddwn i ddim. Dywedon nhw (Roedd thema yn ‘Dinas’.):

“‘Cysgodion y Nos’ yw’r teitl a roddodd y bardd i’w gerdd a’r unig arwydd o destun y gystadleuaeth yw’r geiriau ‘wrth olau stryd’. Cerdd fer am golli câr yw hon. Byddai ‘yn niwloedd amser’ yn well nag ‘Yn yr amser niwloedd’. “

Gwnaeth fy stori ber llawer o well (Roedd thema yn ‘conflict’.):

“Troedio llwybr mwy dychmygus a ffantasïol a wnaeth Mab y Mynydd, Ceridwen a Gwendolyn, gan dynnu ar gyfoeth ein llên gwerin a’n llenyddiaeth gyfoes…….”

“Yr olaf o’r triawd hwn yw Gwendolyn. Mae hi’n defnyddio’r dewin Myrddin i drafod y gormes a fu ar Gymru yn y gorffennol, ond yn y diwedd mae e’n darogan pethau gwell i ddyfod. Er bod y cyd-destun yn cynnig pob math o bosibiliadau, mae gwendidau mynegiant Gwendolyn yn llestair iddi ar brydiau.”

(Gwendolyn dw i)

Dywedon nhw wrthon ni hefyd:

“Rhaid canmol pob un o’r cystadleuwyr hyn ar feistroli’r Gymraeg i’r graddau eu bod yn teimlo’n ddigon hyderus i fentro i gystadleuaeth o’r safon hon, a’u llongyfarch hefyd ar eu gafael ar gystrawennau a phriod-ddulliau’r iaith. Yn naturiol, cafwyd iaith wallus ar brydiau, ond rhaid cofio bob amser bod gwneud camgymeriadau yn rhan annatod o’r broses o gaffael unrhyw iaith. Ar y lefel hon, mae’r gwallau iaith a welir o ddiddordeb arbennig i bawb sy’n ymwneud â’r maes……”

Felly, bydda i’n cystadlu eto’r flwyddyn nesaf a bydda i’n gwneud yn well. Dw i’n credu bod e’n ddim drwg i ymgais cyntaf yn y lefel cenedlaethol felly dw i’n teimlo calonogi. Dw i ddim yn credu’r bydda i’n cystadlu cerdd y flwyddyn nesaf, er. Mwynhaf i ysgrifennu storïau ond dim barddoniaeth.

Eisteddfod Heddiw

Roedd hi’n hyfryd i edrych ar yr Eisteddfod prynhawn ‘ma. Mwynhaf i edrych ar y Seremoni Goron (Llongyfarchiadau iawn iawn i Hywel Griffiths!). Daeth ag yn ôl atgofion o’m Heisteddfod gyntaf dwy flynedd yn ôl. Dim ond roedd e ‘blew me away’. Doeddwn i ddim wedi gweld unrhywbeth fel Seremoni Cadair o’r blaen erioed.

Roedd e’r tro cyntaf bod i’n canu Hen Wlad Fy Nhadau hefyd. Gweithiais i i wythnosau i ddysgu’r geiriau achos bod i’n gwybod y bydden ni’n canu hi. Roeddwn i’n mor falch i allu canu’r anthem genedlaethol Cymru! Roedd e’n mor gyffrous! Roedd y rhaglen heddiw yn gyffrous yn fawr ac mae e’n fy atgoffa i o’r rheswm bod i’n dod i Gymru; y rheswm bod i’n dysgu Cymraeg. Does dim byd tebyg i hon unrhywle yn y byd.

Mae e’n andiffinio (undefinable); fel hiraeth. Mae e’n deimlad yn y galon ac yn yr ysbryd – yn ddwfn cynhenid yn y diwylliant, mae’r cymysgu perffaith o hen a newydd – Cymru bod i’n caru yw hon.

contented smilile