Es i Landysul bore ‘ma i gasglu fy nhelyn werin newydd. Roeddwn i mor gyffrous! Roedd tywyll hyfryd iawn i’r daith, dim traffig o gwbl chwaith! A doeddwn i ddim ar goll cyn i fi gyrraedd yna. Unwaith yna, ni allais ffeindio Telynau Teifi, er hynny. Mae’r gweithdy ar ben y bryn yng nghanol y dref ond does dim arwyddion rhywle (golygfeydd bendigedig iawn iawn o’r ffenestri). Felly, gyrrais y ffordd anghywir, wrth gwrs. Ffyrdd ffermydd neis o gwmpas yr ardal ‘na. Cul, er hynny. Mae peth yn dda bod i’n dda iawn yn bacio nawr.
:O)
Dim ots, mae maes parcio neis yn Llandysul – am ddim hefyd! Felly parciais y car ac es i swyddfa cyngor ar bwys. Roedd dwy wraig tu mewn yn cynnal sgwrs yn Gymraeg. Does dim eisiau arna i ddweud bod i’n chuffed to bits. Gofynnais iddyn nhw “Ble mae Telynau Teifi? Dw i’n ceisio ffeindio nhw. Dych chi’n gwybod?” Roedden nhw’n esbonio’r ffordd i’r gweithdy felly gallais ffeindio heb broblem ar ôl hynny. Mwynheuon ni sgwrs hyfryd cyn i fi adael ac, o’r diwedd, es i bant cerdded lan y bryn.
Yr eglwys ar bwys y maes parcio.
Pan gyrhaeddais yn y gweithdy, roeddwn i’n gallu cwrdd â’r gwneuthurwyr telynau. Dangosodd Justine pob lleoedd gwahanol ble maen nhw’n gweithio ar y telynau yn ystod y broses gynhyrchu i fi. Maen nhw’n gwneud popeth ond y tannau yng ngweithdy y Teifi.
Roedden nhw’n recordio CD yna heddiw a gwahoddon nhw i fi aros a gwrando ar y sesiwn.
Ar ôl i fi dderbyn fy nhelyn, dangosodd un o’r gwneuthurwyr telynnau i fi’r ffordd tiwnio’r delyn a dysgodd Justine cân i fi. Felly, nawr dw i’n gwybod un gân. Yn barod! Gallais sgwrs â phobol yna yn Gymraeg hefyd, felly roedd hynny yn wych.
Bwyteais ginio neis iawn yn y dre. Roedd Justine wedi dweud oedd deli Eidalaidd neis ar y stryd fawr felly es yna i Panini. Eto, mae pob sy’n gweithio yna’n siarad Cymraeg. Felly, roedd cyfle arall siarad Cymraeg. Roeddwn i mor hapus achos bod un wraig yn dechrau siarad â fi yn Gymraeg cyntaf! Woo hoo!
Roedd diwrnod hyfryd a nawr, dw i’n mynd canu fy nhelyn.