Mae fy mywyd yn cylchdroi o gwmpas arholiadau ar hyn o bryd. Mae’n dangos bod popeth yn atgoffa fi am yr arholiadau. Ffeindiaf fy hunan yn cysgu gyda hen hen hen dynion wedi marw a chath! Shwd pathedig yw hynny?! Mae ychydig o dynion y hoffwn yn fy ngwely, i fod siŵr – yn drist, dim ond brodyr Morris a Williams Pantycelyn yw yna. O ych-y-fi – dim fy math o gwbl!
Gwaeth eto, maen nhw’n goresgyn pob agwedd o’m mywyd! Es i Dŷ Tawe nos Wener i ganu – noswaith mas, iawn? Canon ni rhai emynau, wrth gwrs. Atgoffa oeddwn i o Bantycelyn. O na!
Hefyd, mae rhywbeth rhyfedd am arholiadau, gawsoch chi’n sylwi? Ar ôl arholiad Cymraeg Canol, rhedodd pob merch bod i’n nabod i’r siop siocled. Doedd dim siocled yn aros yn Abertawe’r dydd ‘na, credu.
Bore ‘ma dihunais feddwl “Neis yw’r tywydd, beth gwnaf heddiw? Dylwn i astudio gramadeg neu dreulio amser gyda mwy hen dynion? Bydd e’n Pantycelyn, y brodyr Morris neu JSL? A gyda phwy fydda i’n bwyta, ‘sgwn i? Waldo Williams neu William Owen-Pughe.
Mor cyffrous yw fy mywyd.