Ers dw i wedi ysgrifennu ar fy mlog. Do’n i ddim yn sylweddoli faint o amser wedi pasio! Dw i wedi bod gweithio rhyw tri gwaith ers des i yn ol i Galiffornia felly, dw i wedi colli’r llwybr amser.
Beth bynnag, dw i’n edrych ymlaen at y Twrnamaint 6 Gwlad ond, wrth gwrs, mae cwyn ‘da fi amdani. Mae BBC America yn bwriadu darlledu y gemau. Ardderchog! Yn y gorffenol mae’r sianel chwaraeon wedi dangos dim ond cwpl o emau – nid Cymru o gwbl! Felly ro’n i’n meddwl, pan darllenais am y BBC, gallwn edrych ar 6 Gwlad – pob gem. Na. Dim ond 6 gêm byddan nhw’n darlledu – gan mwyaf Lloegr. Ych-y-fi!
Er enghraifft, dydd Sadwrn, byddan nhw’n dangos Lloegr v Yr. Alban. Wel, bydd hi’n gêm da, dw i’n siwr a byddaf yn edrych arni. Ond, hefyd, dydd Sadwrn, bydd gêm rhwng Cyrmu ac Iwerddon. Cefnogwyraig Cymru dw i! Felly, wrth gwrs, mae well ‘da fi edrych ar y gêm Gymru. Bydd ‘frustrating’ iawn i wybod y chawarea Cymru a nad gallaf edrych arni! Hefyd, yn draddodiadol, mae gêm Cymru/Iwerddon yn gêm bendigedig – Fel arfer, mae Cymru ac Iwerddon yn gyfartal felly gwastad cystadleuaeth wych.
Dw i wedi ysgrifennu i BBC am hyn – dyna ‘pointless’. lol Ond, o leiaf, gallaf edrych ar gêm rygbi a does dim llawer o gyfleoedd fel hynny yma yn America. Felly, mae hynny yn dda.
Does dim angen i dweud – byddaf yn cefnogi Yr Alban!