Mae e wedi bod amser hir!

Ers dw i wedi ysgrifennu ar fy mlog.  Do’n i ddim yn sylweddoli faint o amser wedi pasio! Dw i wedi bod gweithio rhyw tri gwaith ers des i yn ol i Galiffornia felly, dw i wedi colli’r llwybr amser.

Beth bynnag, dw i’n edrych ymlaen at y Twrnamaint 6 Gwlad ond, wrth gwrs, mae cwyn ‘da fi amdani.  Mae BBC America yn bwriadu darlledu y gemau.  Ardderchog!  Yn y gorffenol mae’r sianel chwaraeon wedi dangos dim ond cwpl o emau – nid Cymru o gwbl!  Felly ro’n i’n meddwl, pan darllenais am y BBC, gallwn edrych ar 6 Gwlad – pob gem.  Na.  Dim ond 6 gêm byddan nhw’n darlledu – gan mwyaf Lloegr.  Ych-y-fi! 

Er enghraifft, dydd Sadwrn, byddan nhw’n dangos Lloegr v Yr. Alban. Wel, bydd hi’n gêm da, dw i’n siwr a byddaf yn edrych arni.  Ond, hefyd, dydd Sadwrn, bydd gêm rhwng Cyrmu ac Iwerddon.  Cefnogwyraig Cymru dw i!  Felly, wrth gwrs, mae well ‘da fi edrych ar y gêm Gymru. Bydd ‘frustrating’ iawn i wybod y chawarea Cymru a nad gallaf edrych arni!  Hefyd, yn draddodiadol, mae gêm Cymru/Iwerddon yn gêm bendigedig – Fel arfer, mae Cymru ac Iwerddon yn gyfartal felly gwastad cystadleuaeth wych. 

Dw i wedi ysgrifennu i BBC am hyn – dyna ‘pointless’.  lol  Ond, o leiaf, gallaf edrych ar gêm rygbi  a does dim llawer o gyfleoedd fel hynny yma yn America.  Felly, mae hynny yn dda. 

Does dim angen i dweud – byddaf yn cefnogi Yr Alban!

Lluniau Gregynog

Dw i wedi gorffen prosesu’r lluniau o daith dosbarth i Regynog wythnos diwethaf. Roedd taith yn wych – llawer o hwyl ac mae llawer o bethau diddorol gweld.

Dw i’n credu’r rhan bod fwyaf cyffroes i fi, oedd yr ymweliad â heneb i Llywelyn yng Nghilmeri.

Mae llawer o fywyd gwyllt hefyd!

Dw i wedi postio’r lluniau ar dudalen ‘Lluniau‘ neu gallwch fynd yn syth i’r tudalen Taith Gregynog.

Tudalen Newydd

Fel dych chi’n gwybod, dwi’n mwynhau tynnu lluniau o’m teithiau o gwmpas Cymru. Ac, ers dyw fy mam ddim yn gallu dod i Gymru, mae hi’n hoffi gweld y lleoedd ymwelaf i. Felly, dw i wedi crea tudalen newydd i’m lluniau ar y blog ‘ma rhannu nhw gyda phawb – enw “Lluniau“.

Rhaid i fi wneud amser i olchi’r tudalennau – dyna lawer o ddyblygebau a lluniau drwg ar hyn o bryd. Ond dw i ddim amser nawr felly goddefwch gyda fi, os gwelwch yn dda.

Dw i’n meddwl bod achos bod i wastad cael ar goll, ffeindiais i lawer o leoedd diddorol yn aml. Felly, gobeithio’r byddwch chi’n mwynhau gweld lleoedd o gwmpas Cymru hardd.