Arholiadau – ych-y-fi!

Dych chi wedi rhoi meddwl i’r rheswm pam mae pawb yn dod nerfus am arholiadau?  Dw i wedi – achos dw i’n dod nerfus iawn iawn.  Arbennig pan mae’r arholiad yn yr iaith Cymraeg.  Does dim geiriadur yn cael ei chaniatáu yn ystod yr arholiad.  I fi, mae hyn yn anodd iawn iawn – dw i ddim yn gwybod digon o eirfa ysgrifennu traethawd heb eiriadur, chi’mod?  Felly dw i’n gwybod y bydda i’n brwydro gwneud y gwaith.

Wel, ‘te beth gall un wneud?  Googlewch wrth gwrs!  Cymorth ar eich pennau y bys:

Llyfr llaw o Oxford Brookes University

Er bod i ddim yn siŵr am ‘twanging’ band rwber dros fy arddwrn – efallai bydden nhw’n meddwl bod gwybodaeth ar fy mand rwber a mas byddwn i’n mynd.  Ac dw i’n eithaf siŵr pe baswn i’n cyfrif desgiau yn y rhes  byddai’r goruchwyliwyr yn dod ‘upset’ tipyn bach.

Dim ots,  mae cwpl o awgrymiadau’n dda ceisio beth bynnag.  NEU Gallech ddefynddio’r modd ‘tried and true’:

Iechyd da!

Helpu’r Deillion i Weld

Enillodd y Gweilch! Ie – pencampwyr Magner’s ydyn ni.  Da iawn bois!!

Er hynny, dyw’r post ddim am y Gweilch. Mae’r post am y rheolwr yng ngêm ddoe, Chris White. Dw i’n teimlo yn ddrwg amdano fe – yn glir mae angen i lawfeddygaeth legad cywirol arno fe.  Dall fel ystlum yw e. Trist iawn.

Ocê, yn ddifrifol nawr.  Pam, tybed, mae e’n gallu rhoi sylwi i’r camgymeriadau gan Gymru heb broblem ond dwy e ddim yn gallu rhoi sylwi i’r camgymeriadau gan unrhyw dîm arall? Selective Blindness efallai?

Dw i wedi sôn am hyn o’r blaen – droeon!  Mae e’n gwneud yr un peth pob gêm ble mae Cymru yn chwarae a rheolwr yw fe.  A dim eithriad oedd gêm ddoe – roedd yn agos gwrthryfel yn y tafarn yn un pwynt!!

Yn wir, dw i’n meddwl fod e’n amser rhoi cwyn swyddogol, ond dych chi?  Do, enillon ni, ond nad ddylai’r swydd fod gwneud mwy anodd achos bod y rheolwr yn dioddef o olwg sâl.

Ardderchog!

Er gwaethaf dechrau’r wythnos yn sefyll arholiad, mae popeth wedi mynd yn wych!

Nos Lun es i ymweld â Jonathan a Marilyn sy’n ymweld o Derby.  Maen nhw’n aros ym Mae Caswell – lleoliad hyfryd iawn!  Coginiodd Marilyn pryd llysfwytäwr blasus ac wedyn ar ôl ginio, aethon ni am y tro ar y traeth.  Hyfryd.

Wedyn, neithiwr, ymunais â changen y Tŷ Tawe WAWR.  Aethon ni fowlio yn Ten Pin Bowling yn Abertawe.  Roedd llawer o hwyl.  Doeddwn i ddim wedi bod bowlio ers blynyddoedd!  Felly, cymrodd e dipyn bach i gofio’r ffordd i daflu’r bêl.

Yn y gêm gyntaf, dechreuais yn ofnadwy.  Collais y pinnau yn gyfan gwbl wedyn cwmpais ‘flat on my back’ yn y ffrynt o Dduw a phawb – roedd popeth yn iawn ond teimlais twp iawn – arbennig achos mae arwyddion mawr ar y llawr a dros y lonydd:  Warning!  Very slippery floor.   

Dw i’n meddwl y byddwn i’n cytuno â hynny!

Gorffenais y gêm yn y lle diwethaf.  Ond ar ôl ginio aeth pethau gwell.

Dechreais yr ail gêm gan gwpl o ergydion da ac am hanner ffordd, gwnes sbâr!  Wel, roeddwn i’n gwefreiddio.  Yn anffodus, aeth e i’m pen, ‘sbo, achos nid allais fwrw’r ochr llydan o ysgubor (Americanism -can’t hit the broad side of a barn) ar ôl hynny. 

Ond dim ots – Enillais gyda sgôr uchelaf beth bynnag (llawer i’m syrpreis).  Roedd pryd yn wych a dw i’n bwriadu ymuno â WAWR pan bydd pethau yn dechrau eto ym mis Medi.

Roedd y rhan gorau, dw i’n meddwl, oedd sgŵrs dros y noswaith yn Gymraeg ac i fod rhan o’r grŵp a rhan o’r grŵp sy’n gallu siarad iaith y Nefoedd.  Dw i’n falch dweud gallais siarad yn Gymraeg 98% o’r amser.  Roedd y merched yn wych a doeddwn i ddim yn teimlo fel roeddwn i’n siarad rhy araf.  Felly, ymlaciais a gallais ddweud mwy.  Yn wir, os dw i’n ymlacio tipyn bach a stopio becso am siarad digon o gyflym, dw i’n gallu dweud llawer o fwy yn Gymraeg.  Jyst does dim digon o eirfa ‘da fi.  Ond bydd hynny yn dod, dw i’n meddwl.  Neithiwr, roeddwn i’n cofio llawer o eiriau na ddefnyddiais yn amser hir. (Mae pawb yn siarad â fi yn Gymraeg un unig wrth gwrs.)

Dw i wedi bod becso am fy Nghymraeg yn hwyr.  Mae llawer wedi cael ei ddigwydd i fi eleni ac mae e’n dangos fel roeddwn i’n colli’r iaith.  Ond mae pethau’n setlo tipyn bach nawr ac mae e’n dod yn ôl.  A dw i’n hapus iawn iawn am hynny.

Ah Geez – Tory yn Rhif 10?!!

Wel, dw i’n gutted go iawn.  Dw i ddim yn hoffi David Cameron yn fawr ond, mae fy nheimladau personol naill ochr, becso dw i.  Pam?  Achos bod i ddim yn credu’r bydd e’n dda am Gymru (neu Prydain i’r mater ‘na).  Roeddwn i’n gobeithio yn fawr y fyddai e ddim yn dod Prif Weinidog ond dyna ni – yn ffordd roeddwn i’n gwybod byddai, ‘sbo.  Ond i fi, y parti Tory yw’r un peth fel parti Republicans yn America.  A chaseais George Bush ac yr Republicans mwy na gallaf fynegi yn eiriau.  ‘Corporate Mentality’ yn ei orau.  ‘Arguable’ dw i’n siŵr – cwrddais â Chymro neithiwr sy’n hoffi Bush ac roedd e’n esbonio wrtha i jyst faint casâ Obama (ac pam mae’r Tories yn wych).  Wel sori, mae hynny yn fy marn – nawr ac am byth.  Fydda i ddim yn newid.  Dw i’n credu bod e wedi disirywio America am ddim byd tu hwnt ei elwau hunan.

Be that as it may, nawr, gobeithiaf a gweddïo’r fydd y Tories ddim yn dinistrio popeth bod Cymru wedi gweithio dodi yn lle draw’r blynyddoedd.  Ond o bopeth dw i wedi clywed am weinyddiaeth Tory yn y gorffennol, ac  mae’r ffordd y bobol yn bŵer yng Nghymru yn siarad, mae’r gobaith ‘na yn dangos main yn gorau.  :O(

Siomedig

Dyna ddim byd arall gallaf ddweud.  Ond efallai ‘gutted’ yw’r gair yn well.  Ro’n i wedi gobeithio i ganlyniadau’n well am Blaid.  Felly, dw i ddim yn hapus am hynny.  Ond ro’n i eithaf gobeithio fyddai Conservatives ddim yn ennill.  Felly dw i’n methu ffeindio llawer i ddathlu bore ‘ma.

Pleidleisiwch! Pleidleisiwch! Pleidleisiwch!

Wrth gwrs, pe gallwn bleidleisio, byddwn i’n pleidleisio i Blaid Cymru.  Pam?  Achos dim ond Plaid wedi dweud unrhywbeth am ddatganoli.  Er mod i’n meddwl gweithio drwy sianelau gwleidyddol yw’r ffordd araf yn boenus, o leiaf mae Plaid yn symud yn y cyfarwyddyd ‘na.

Ond os rydych chi’n cefnogi Plaid neu ddim,  pleidleisiwch os gwelwch yn dda!

Mas Gyda Chi Mewnfudwyr!

Arhoswch bant ‘you bums’ – dyn ni ddim yn moyn chi yma.  Wel, heblaw os dych chi’n dod o’r EU.  Dim ots nad siaradwch Saesneg neu Gymraeg.  Dim ots does dim arian gyda chi neu dim sgiliau gyda chi.  Mae’n iawn!  Croeso i Gymru!  Croseo i’r Deyrnas Unedig.  Dim arian? Paid â becso! Dim gwaith?  Paid â becso!  Allwch chi yrru?  ‘sort of’?  Wel, paid â becso!

Reit.  Ond does dim yr un peth i fi neu unrhywun arall o ‘one of those Godawful non-EU countries!’

Wel, sa i’n teimlo croeso bellach. Yn siŵr dim ar ôl i fi wrando ar y gwleidyddion yn siarad.  Ac mae hynny yn rhoi tristwch i fi.  Dw i wedi dod i Gymru achos bod i’n caru’r lle – popeth amdani hi.  Dw i wedi gweithio caled iawn i creu cartref newydd i fy hunan yma.  Dw i’n meddwl bod llawer i gynnig i Gymru ‘da fi ac doeddwn i ddim yn dod yma i freeload, chi’mod?

Ond pan dw i wedi gorffen yn y brifysgol, bydd rhaid i fi fynd nôl i Galiffornia mae’n debyg.  O leiaf os mae’r gwleidyddion yn gael eu ffordd.  Dim achos does dim sgiliau gyda fi.  Dim achos does dim gwerth i Gymru gyda fi.  Dim achos troseddwraig dw i.

Wel, pam ‘te?

Achos, yn ôl y gwleidyddion, un o’r RHEINY pobol ofnadwy sy’n dod o wlad tu mas yr EU dw i.

Nawr, mae pawb yn siarad am yn cyfyngu’r nifer mewnfudwyr o wledydd tu mas y EU. Conservatives:  “Support Labour’s Points-Based System, but also establish an annual limit for non-EU economic migrants.”

AC maen nhw’n siarad am newid i ddulliau i ennill dinasyddiaeth. Labour: “Break the automatic link between staying in the UK for a set period and being able to settle or gain citizenship.”

Mae Liberal Democrats yn moyn “Increase cost to business of work permits for immigrant employees to pay for training British workers” – wel, yn barod, mae’r busnesoedd yn petruso cyflogi o tu mas yr EU achos o waith papur arbennig.

Dw i’n cefnogi Plaid, wrth grws.  Mae Plaid yn dweud: “We condemn the point-scoring used by other parties and the pandering to unfounded xenophobic prejudices in the debate on immigration.”  Er hynny, dw i’n siŵr y rhaid iddyn nhw gael mwy o bolisi na hynny.  Ond dim ots, really.  Bydd dim Prif Weinidog DU o Blaid.

Yn eiriau eraill, mae ods yn dweud y fydda i ddim yn gallu aros yng Nghymru ar ôl graddio.  Ac os yr achos yw hynny, bydd e’n torri’m nghalon. 

Yn amlwg, dw i’n siŵr y bydd mwy i’r polisiau ‘ma na jyst hynny.  Yn dal, fydd e ddim yn hawdd i unrhywun fel fy hunan.   Yn barod, mae llawer o ‘hoops’ rhaid i fi neidio draw i fod yma.  Felly, dw i’n gobeithio y byddwch chi’n deall os dw i’n cwyno am y rhagolwg o rhywbeth arall.

Efallai dylwn i wneud bywyd hawdd i fy hunan a symud i Wlad Pwyl, dod dinesydd yna ac wedyn gallaf symud yn ôl i mewn i Gymru heb problem.

Nawr – Ardderchog yw Hyn!

Heddiw es i’r optegwr i’m  harholiad llygaid blynyddol.  Mae optegwr (Alun yn  Bater & Jones, Ysbyty Singleton) yn siaradwr iaith gyntaf.  Wel, gofynnodd i fi “Beth dych chi’n astudio yn y Brifysgol?”

“Cymraeg a hanes canoloesol” atebais

“Cymraeg yr iaith?” gofynodd yn Gymraeg.

“Ie” dywedais.

Ar ôl hynny siaradon ni dim ond yn Gymraeg.  Wel, bron.  Doeddwn i ddim yn gwybod rhyw eiriau (geiriau newydd) ac mae e’n dod o’r cwm Tawe (Ystradfera) felly mae e’n ynganu rhyw eiriau yn wahanol.  Felly, doeddwn i ddim yn deall popeth.  Ond unwaith roedd e wedi rhoi’r ynganiad mwy cyffredin, gallodd siarad ddefnyddio ynganiad cwm ac roeddwn i’n gallu deall.

Sa i’n gallu credu hyn.  Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gallu deall Cymraeg erioed – yn wir!  Nawr yn sydyn eleni, dw i’n gallu deall mwy a mwy.   Sa i’n gallu dweud shwd bendigedig yw hyn!  Nawr, mae e’n dangos naturiol clywed Cymraeg a nawr dw i’n gallu newid i mewn i fodd Cymraeg haws.

Dw i’n teimlo bendigedig heno ar ôl y profiad ‘ma.  Mae’n anodd discrifio.  Ond pan dych chi’n gallu deall Cymraeg ac ateb yn Gymraeg…wel…popeth yn teimlo perffaith.

Dw i’n mynd lan a lawer fel mae pawb sy’n darllen y blog ‘ma yn gwybod.  A dyw e ddim wedi bod hawdd o gwbl.  Mae e wedi bod llawer o weithiau pan dw i wedi moyn rhoi’r ffidl yn y to.  Ond yn hwyr, er gwaethaf popeth, dw i’n teimlo’r bydda i’n gwneud fe.  Beth teimlad hyfryd!

Bendigedig Iawn Iawn

Ac mae hyn yn y rheswm dw i’n caru Cymru!

Neithiwr es i Aberpennar chwarae cerddoriaeth werin gyda Geraint, Tracy a rhai o bobol arall o Ferthyr.  Wrth gwrs anghofiais ysgrifennu lawr yr enw tafarn.

Ro’n i’n meddwl ‘Fydd Aberpennar ddim yn fod mawr iawn siŵr o fod.  Dim ond un neu dau dafarn, reit?  Dim problem, bydda i’n ffeindio nhw.  Bydda i’n tecstio at Geraint pan cyrhaeddaf.”  Felly, bant es i am 7:30 yh.

Naddo.  Mae llawer o dafarnau yn Aberpennar.  Llawer!

Wel, yn amser da, cyrhaeddais yn Aberpennar.  Tecstiais at Geraint a gyrrais i mewn i ganol y ddinas a ffeindiais dafarn prysur.  Roedd grŵp o ferched yn cerdded i’r tafarn felly stopiais i ofyn am y tafarn.  Mae un o’r ferch yn siarad Cymraeg felly roedd hynny yn wych iawn!  Rhodd hi wybodaeth a chyfarwyddiadau yn Gymraeg.  “Os dych chi ddim yn ffeindio nhw, dewch yn ôl a ymunwch â ni i ddiod,” dywedodd hi.  Hyfryd iawn!

Dywedais ‘diolch yn fawr iawn’ ac es i’n ôl dros y bont a ffeindiais y maes parcio soniodd amdano heb broblem.  Gyda gitâr ar fy nghefn, dechreuais bant ffeindio’r tri thafarn soniodd amdano hefyd.

Roedd y stryd yn dywyll iawn a dim llawer o bobol yna.  Roedd e’n dangos fel cymdogaeth breswyl.  Ond, mae e’n edrych fel hynny yn Ystradfera hefyd felly parheais ymlaen.

Roedd cwpl yn cerdded lawr y stryd ata i.  Felly gofynnais iddyn nhw am y tafarnau.  Mwy defnyddiol roedden nhw.  Eithaf neis hefyd.  Roedden ni’n sgwrs tipyn bach a pharheais lan y bryn (stryd).

Wedyn, ar ôl tro byr, cyrhaeddais yn dafarn y cyntaf.  Roedd gwraig yn sefyll tu mas y drws.  Gofynais iddi hi os roedd gwrp cerddoriaeth werin tu mewn.  ‘Na’, meddai hi.  Ond dechreuon ni sgwrs – roedd twym neithiwr – hyd yn oed ar ôl tywyll.  Felly, safan ni tu mas yn siarad am hyn y hynny. Cawson ni dro ardderchog!

Beth bynnag, dywedodd hi ‘Paid â becso am y tafarn nesaf – dim byd yna.  Ond efallai’r un drws nesaf iddo fe’.  Dywedais ‘hwyl’ a mynd i’r tafarn nesaf.

Dim tafarn cywir ond dywedodd y dyn a merch yn sefyll tu mas ‘you can sing in here if you want’.

Hyfryd!

Ond dim diolch – dw i ddim yn barod i fynd solo. 

Felly, dywedais ‘na, diolch’ ac es i yn ôl i’r car.  Ar y ffordd yn ôl i’r car, cwrddais â’r wraig o tafarn y cyntaf.  Daeth hi yn ôl tu mas gyda chwpl o bobol eraill i ffeindio fi.  Dyn nhw wedi bod gofyn tu mewn ac roedd rhywun yn gwybod am y gig dros y pentref.  Dywedon nhw i fynd yn ôl drwy ganol y ddinas i’r clwb Nixon.  Roedd cerddoriaeth werin yna.

Gwych!

Yn y Clwb Nixon, cwrddais â mwy pobol neis ond dim Geraint a Thracy.  Felly, o’r diwedd, rhois y ffidil yn y to, gadais neges at Geraint ac es i yn ôl adre.  Ond roedd taith yn wych a mwyheais fy hunan yn fawr.  Cwrddais â llawer o bobol newydd, pobol neis a ffeindiais ffordd newydd i fynd i dai Annamarie a Diana yn Rhydyfelen.

Nes ymlaen, galwodd Tracy.  Does dim ‘reception’ ffôn symudol yn y tafarn.  Felly, doedden nhw ddim yn derbyn fy neges tan rhy hwyr.  Er hynny, dw i wedi gyrru heibio’r tafarn dwywaith!  O wel, tro nesaf.  Fydda i ddim yn anghofio ysgrifennu’r enw eto.

Yn y cyfamser, roedd profiad cofiadwy arbennig achos bod e’n ail-cadarnhau (reaffirm?) y pethau dw i’n caru mwyaf am Gymru – y bobol a’r diwylliant.