Yn olaf, yn ôl i Iwerddon – sori, dw i wedi bod gwrthdynnu gan Gavin Henson a’i ddymuno cadw ‘low profile’. Reit. Digon ohono fe.
Fel arfer, dw i’n mwynhau hanes rhwng, o…am 1250 i 1450. Ond rhaid i fi ddweud bod i’n ffeindio carneddau gladdu i fod diddorol iawn. Mae’r tro cyntaf gwelais carnedd oedd Cefn Bryn – dim pell ohona ar Ŵyr. Wedyn, darllenais lyfr Huw Dylan Owen, Meini Meirionnydd (mae cyfuniad neis o farddoniaeth a gwybodaeth gyda lluniau, gyda llaw).
Felly, pan gynlluniais fy nhaith i Iwerddon, dywedodd pawb ‘O! Rhaid i ti ymweld â Newgrange‘. Wel, yn anffodus, maen nhw’n cyfyngu’r nifer o bobol sy’n mynd i mewn i Newgrange felly rhaid i chi gyrraedd yn gynnar. Yn drist am fi, person cynnar dw i ddim ac roeddwn i’n aros rhyw awr bant ohoni hi. Felly, nid es erioed – gobeithio ar y daith nesaf.
Yn lle, ffeindiais fy hunan crwydro o gwmpas Cwm Boyne un prynhawn a des ddraw Loughcrew Cairns. Roeddwn i’n falch iawn gwnes – lle arbennig iawn yw hi ac roedd y tywydd yn braf iawn, cynnes a heulog a dim cymaint o bobol fel Newgrange.
Cawson eu hadeiladu cyn 3000 BC (Loughcrew The Cairns, A Guide, Jean McMann t. 9) a rhaid i chi ddringo bryn serth cyrraedd atyn. A dw i ddim yn jocan! Mae bryn yn serth iawn a hir iawn! Ond unwaith dych chi’n cyrraedd at y pen, mae’r golygfeydd yn fendigedig. (Dyw’r lluniau bach ddim yn rhoi cyfiawnder i’r golygfa, mae ofn arna i.)
Mae rhai o’r carneddau wedi torri, rhai yn dal cau a dim ond un wedi agor. Felly bydd pawb grŵp yn mynd i mewn i’r garnedd agor gydag arweinydd. Maen nhw’n gwybod llawer am y carneddau ac mae’r chwedleuon. Felly mae e’n ddiddorol iawn iawn. Storïwyr bendigedig ydyn nhw.
Hefyd, dim ond 5 neu 6 pobol yn gallu i fod tu mewn y garnedd gyda’i gilydd. Dim llawer o ystafell tu mewn a rhaid i chi ddringo trwy’r porth cul i gyrraedd yn yr ystafell fach. Es tu mewn â grŵp o ‘biker dudes’ o Romania. Doedden nhw ddim yn siarad Saesneg heblaw un wraig. Ond mae ofn arni hi am leoedd bach tywyll. Felly byddai hi’n dod i’r porth yn unig. Roedd yn wych, er hynny, achos gallais dynnu llun ohoni hi. Mae’r llun yn dangos y maint o’r porth. Doeddwn i ddim yn meddwl bod hi’n fwy na 5’2″ tal.
Dyna amryw o ystafelloedd bach bant o’r prif ystafell, roedd 3 yn y garnedd ‘ma, dw i’n credu. Pob un ohonyn nhw yn fychan iawn – dim ond un person y tu mewn yn unwaith. Does dim golau yn yr ystafelloedd ochr o gwbl. Felly, mae’r arweinwyr yn darparu fflocholeuadau i bawb.
Mae’r llawer gallwn ddweud am y carneddau ond does dim digon o amser ‘da fi ysgrifennu popeth ar hyn o bryd. Ond bydda i’n dweud nid allaf ddisgrifio shwd mae e’n teimlo sefyll yn yr ystafell, dan o’r tir, yn edrych ar gelf bod pobol wedi cerfio rhyw 5,000 blwyddyn yn y gorffennol! Mind blowing. Dim ond mind blowing.
Felly, bydda i’n gorffen y post ‘ma gan roi’r lluniau o’r gelf i chi. Mwynhewch!