Ddoe, torrais i fy nghadwyni a dinciais i i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Oedd hi’n oer a chymylog ond dim gwyntog. Wel, dim llawer, beth bynnag.
Roeddwn i’n cael argraff dda wrthi hi. Mae llawer o weld ac aeth amser heibio’n glou.
Tynnais i lawer o luniau a phostiais i nhw ar FforwmGymru. Bydda i’n mynd yn ôl yn fuan pan rwy’n cael mwy amser. Mae hi’n lle hyfryd ac mae hi’n werth mwy na un ymweliad, yn bendant.
Wedyn, neithiwr es i i Tŷ Tawe i chwarae fy ngitâr yn sesiwn ‘jam’ gyda cherddorion eraill. Chwaraeon ni cerddoriaeth werin Gymreig. Rwy’n newydd i gerddoriaeth werin Gymreig felly dw i ddim yn gwybod i’r caneuon eto, ond roeddwn i wedi hwyl yn chwarae a chymryd rhan yn y sesiwn. Bwriadaf i ddysgu’r caneuon yn amser i’r sesiwn nesaf a chwaraeaf i eto. Roeddwn i’n gallu i ddefnyddio fy Nghymraeg hefyd. Ac mae hynny yn haws ar ôl ychydig o beintiau o gwrw.