Ac mae hyn yn y rheswm dw i’n caru Cymru!
Neithiwr es i Aberpennar chwarae cerddoriaeth werin gyda Geraint, Tracy a rhai o bobol arall o Ferthyr. Wrth gwrs anghofiais ysgrifennu lawr yr enw tafarn. 
Ro’n i’n meddwl ‘Fydd Aberpennar ddim yn fod mawr iawn siŵr o fod. Dim ond un neu dau dafarn, reit? Dim problem, bydda i’n ffeindio nhw. Bydda i’n tecstio at Geraint pan cyrhaeddaf.” Felly, bant es i am 7:30 yh.
Naddo. Mae llawer o dafarnau yn Aberpennar. Llawer!
Wel, yn amser da, cyrhaeddais yn Aberpennar. Tecstiais at Geraint a gyrrais i mewn i ganol y ddinas a ffeindiais dafarn prysur. Roedd grŵp o ferched yn cerdded i’r tafarn felly stopiais i ofyn am y tafarn. Mae un o’r ferch yn siarad Cymraeg felly roedd hynny yn wych iawn! Rhodd hi wybodaeth a chyfarwyddiadau yn Gymraeg. “Os dych chi ddim yn ffeindio nhw, dewch yn ôl a ymunwch â ni i ddiod,” dywedodd hi. Hyfryd iawn!
Dywedais ‘diolch yn fawr iawn’ ac es i’n ôl dros y bont a ffeindiais y maes parcio soniodd amdano heb broblem. Gyda gitâr ar fy nghefn, dechreuais bant ffeindio’r tri thafarn soniodd amdano hefyd.
Roedd y stryd yn dywyll iawn a dim llawer o bobol yna. Roedd e’n dangos fel cymdogaeth breswyl. Ond, mae e’n edrych fel hynny yn Ystradfera hefyd felly parheais ymlaen.
Roedd cwpl yn cerdded lawr y stryd ata i. Felly gofynnais iddyn nhw am y tafarnau. Mwy defnyddiol roedden nhw. Eithaf neis hefyd. Roedden ni’n sgwrs tipyn bach a pharheais lan y bryn (stryd).
Wedyn, ar ôl tro byr, cyrhaeddais yn dafarn y cyntaf. Roedd gwraig yn sefyll tu mas y drws. Gofynais iddi hi os roedd gwrp cerddoriaeth werin tu mewn. ‘Na’, meddai hi. Ond dechreuon ni sgwrs – roedd twym neithiwr – hyd yn oed ar ôl tywyll. Felly, safan ni tu mas yn siarad am hyn y hynny. Cawson ni dro ardderchog!
Beth bynnag, dywedodd hi ‘Paid â becso am y tafarn nesaf – dim byd yna. Ond efallai’r un drws nesaf iddo fe’. Dywedais ‘hwyl’ a mynd i’r tafarn nesaf.
Dim tafarn cywir ond dywedodd y dyn a merch yn sefyll tu mas ‘you can sing in here if you want’.
Hyfryd!
Ond dim diolch – dw i ddim yn barod i fynd solo. 
Felly, dywedais ‘na, diolch’ ac es i yn ôl i’r car. Ar y ffordd yn ôl i’r car, cwrddais â’r wraig o tafarn y cyntaf. Daeth hi yn ôl tu mas gyda chwpl o bobol eraill i ffeindio fi. Dyn nhw wedi bod gofyn tu mewn ac roedd rhywun yn gwybod am y gig dros y pentref. Dywedon nhw i fynd yn ôl drwy ganol y ddinas i’r clwb Nixon. Roedd cerddoriaeth werin yna.
Gwych!
Yn y Clwb Nixon, cwrddais â mwy pobol neis ond dim Geraint a Thracy. Felly, o’r diwedd, rhois y ffidil yn y to, gadais neges at Geraint ac es i yn ôl adre. Ond roedd taith yn wych a mwyheais fy hunan yn fawr. Cwrddais â llawer o bobol newydd, pobol neis a ffeindiais ffordd newydd i fynd i dai Annamarie a Diana yn Rhydyfelen.
Nes ymlaen, galwodd Tracy. Does dim ‘reception’ ffôn symudol yn y tafarn. Felly, doedden nhw ddim yn derbyn fy neges tan rhy hwyr. Er hynny, dw i wedi gyrru heibio’r tafarn dwywaith! O wel, tro nesaf. Fydda i ddim yn anghofio ysgrifennu’r enw eto. 
Yn y cyfamser, roedd profiad cofiadwy arbennig achos bod e’n ail-cadarnhau (reaffirm?) y pethau dw i’n caru mwyaf am Gymru – y bobol a’r diwylliant.