Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – Ie!

Er yn y gorffennol, dw i wedi cwyno am yr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, rhaid i fi ddweud, nawr, dw i ddim yn credu bod hynny’n chwarae teg iddyn nhw.

Ddoe es i’r amgueddfa a threulio awr neu fwy hyfryd darllen am Gymru a’r Antartig yn yr arddangosyn newydd.  Mae’r arddangosyn yn ddiddorol iawn ac mae e’n fendigedig am ddysgwyr.  Mae stori wedi cael ei ysgrifennu draw rhyw amryw o fyrddau a bob bwrdd yn cael Cymraeg ar y chwith a Saesneg ar y dde.  Felly, os dych chi’n darllen yn Gymraeg a dych chi’n stopio gan air newydd, gallwch edrych ar y Saesneg.  Hefyd, roedden nhw’n rhedeg ffilm am alltaith – siŵr o fod, roedd alltaith Gymru yn yr arddangosyn ond nid allaf ddweud wrth siŵr fel des mewn y canol.  Roedd ffilm dda, er hynny.

Felly, ‘kudos’ i’r Amgueddfa, a dw i’n dad-ddweud fy nghwynion nawr achos bod i’n credu gwnân lawer am ddysgwr a siaradwr iaith gyntaf fel ei gilydd.

Diolch iddyn nhw am roi lle neis ymweld – ac am ddim hefyd!

Diwrnod Hwyl ym Mhontypridd

Prynhawn ddoe es i Bontypridd.  Dw i wedi bod i Rydyfelin, ar bwys Ponty, ond dim i Bonty go iawn.  Felly dywedodd Annamarie “Dewch lan heddiw a byddwn ni’n gwneud Ponty.”

Mae ‘r Afon Taf yn llifo yn gyflym, i fod siŵr…

P8260239
…ac er gwaeth o’r glaw, gallais dynnu llun o’r bont.

P8260238

Aethon ni ymweld â fy ffrindiau, Ann a Maldwyn yn Siop y Bont felly gallais siarad yn Gymraeg gyda nhw.  Cwrddais â pherson newydd yna hefyd.  Mae hi’n dysgu Cymraeg i blant.  Felly, fel gwastad, roedd neis yn siarad Cymraeg gyda pherson newydd.  Arbennig fel doeddwn i ddim yn ffeindio unrhywun eraill sy’n siarad Cymraeg.  :O(

Siop-y-Bont

Siop-y-Bont

O yna, aethon ni siopa a cherddon ni o gwmpas y dre.  Mae Annamarie yn gwybod llawer o hanes Pontypridd felly adweinyddes daith dda iawn yw hi.  Dywedon ni am y ffynnon yn y dre ble roedden nhw arfer rhoi dŵr i’r ceffylau.  Mae ffynnon hyfryd gydag idiomau yn Gymraeg yn eu cerfio yn y maen.

ffynnon

Meddyliais fod e’n ddiddorol – y ddraig goch A’R ddraig wen.  Byddwn i wedi disgwyl dim ond y ddraig goch.

P8260248

P8260250

Mae llawer o siopau a ‘cafés’ ym Mhontypridd:

P8260243

Siopau

Hefyd, mae llawer o hen adeiladau hyfryd:

P8260257

O’r diwedd, cwrddon ni â Diana yn Alfreds i diodydd a chinio.  Bwyd yn fendigedig!

Ble Mae’r Gymraeg – Rhan II

Neu ydy ‘Rant 2’?

Beth yw eu hesgus, tybed….. Daniel Contractors – Cwmni mawr gyda swyddfeydd yng Nghymru.   Maen nhw’n gweithio ar y ffordd yng Nghilâ.  Does dim UN gair Cymraeg ar eu harwyddion.

Mae eu gwefan yn ofnadwy hefyd.  Mae hi’n torri canllawiau hygyrchedd.

Mae e’n dweud ar eu gwefan bod y cwmni’n cofleidiad “respect, integrity, people…..”

Ac mae tudalen enw ‘Corporate Responsibility’ yn ei ddarllen:

“Daniel Contractors Limited understand it has responsibilities to the communities it operates within and to society as a whole.”

Felly, gofynnaf:  Pam does dim Cymraeg ar eu harwyddion yn Abertawe ‘te?  Hummmm……

Erm…ble mae’r Gymraeg?

Os mae sticer ‘Ble mae’r Gymraeg’ yn ei angen erioed, mae e’n nawr.

Ro’n i’n gyrru yn ôl i’r brifysgol dydd Llun diwethaf ac edrychais ar y ffordd mewn Ysbyty Singleton.  Dyna, yn goch disglair, “Warning – Change to Road Layout”.

Esgusodwch fi?  Ydy rhywbeth yn ei golli yna, folks?  Mae’r Gymraeg efalle?

Wel, efalle byddan nhw’n dweud: “Wel, mae pawb yn siarad Saesneg” neu’r gwastad poblogaidd “Does dim neb yn Abertawe sy’n siarad Cymraeg.”  Ond does dim esgus.  Adeilad cyhoeddus yw e, ac am hynny, dylai fod Cymraeg.

Heblaw, dw i wedi eistedd yn yr ystafell aros mwy na unwaith gwrando ar Gymraeg yn cael ei siarad.  Felly, dych chi ddim yn dweud wrtha i fod ‘neb yn siarad Cymraeg felly does rhaid i ni ddarparu arwydd Cymraeg’.

Dymunaf ddinesydd o Gymru oeddwn i.  Achos gallwn ddodi sticer-“Ble mae’r Gymraeg?” ar yr arwydd heb fecso o alltudiaeth.

Yn lle, bydda i’n gorfodi ysgrifennu llythyr aneffeithiol i’r yr ysbyty.  O wel, o leiaf mae hynny yn rhywbeth, beth bynnag.