Mae cockles a laverbread yn dda iawn! Neithiwr cynhaliwyd cinio Nadolig y Merched y Wawr. Aethon ni i’r Fountain Inn ym Mhontarddulais. Roedd y bwyd yn dda, cockles i’r cwrs cyntaf i fi, Delyth a Elid. Roedd y prif gwrs i fi yn gyw iâr wedi ei stwffio â caws (Bleu Cheese, credu) a phlât caws Cymreig, ffrwyth a bisgedi i bwdin. Fel arfer, roedd Amanda yn westeiwraig berffaith. Dw i wastad mwynhau cyfarfodydd Merched y Wawr. Maen nhw’n grŵp neis o bobl. Dymunaf y gallwn siarad Cymraeg yn well achos dywedais yn Saesneg weithiau. Ond mae merched yn amyneddgar â fi, felly, dw i’n trial dweud cymaint â phosibl yn y Gymraeg.
Ond ro’n i wedi blino neithiwr achos yn y prynhawn ddoe, roedd rhaid i wneud fy olaf araith i’r dosbarth Ymarfer Iaith. Whew! Dw i’n hapus i fod gorffen â hynny! Ond dw i’n falch o’m hunan achos bod i’n gallu gwneud yr hollol araith heb gamgymeriadau! I’r tro cyntaf erioed! Yn drist, anghofiais i newid y sleidiau PowerPoint felly gwnes bopeth heb y slideshow. Roedd ofnadwy i sylweddoli ar gwblhad bod i wedi anghofio newid y sleidiau, gallaf ddweud wrthoch chi! Ond roedd Dr. Thomas yn dda amdano. Dywedodd roedd yr araith yn y rhan bwysig so paid â becso. Bydda i’n becso beth bynnag wrth gwrs.
Y peth arall wedi ei digwydd ddoe oedd yn ddweud ffarwel wrth Christine James fel eu hathrawes Ysgrifennu Creadigol. Dw i’n credu bod pawb yn drist i ddweud ‘goodbye’ achos bod ni wedi mwynhau’r dosbarth yn fawr. Bydd Tudur Hallam yn dysgu’r ail dymor. Ond fydd e ddim yr un, dw i’n credu. Mae dim ond pum merch yn y dosbarth felly roedd neis i gael athrawes. Beth bynnag, roedd dosbarth olaf neis iawn – aethon ni i Daliesin i goffi a dosbarth. Dw i wedi dysgu llawer am ysgrifennu o Christine James.
Felly, mae dim ond dau ddosbarth yn aros yr wythnos ‘ma a dyn ni’n cwpla gyda’r tymor cyntaf. Gads – mae amser wedi hedfan!