Er gwaethaf dechrau’r wythnos yn sefyll arholiad, mae popeth wedi mynd yn wych!
Nos Lun es i ymweld â Jonathan a Marilyn sy’n ymweld o Derby. Maen nhw’n aros ym Mae Caswell – lleoliad hyfryd iawn! Coginiodd Marilyn pryd llysfwytäwr blasus ac wedyn ar ôl ginio, aethon ni am y tro ar y traeth. Hyfryd.
Wedyn, neithiwr, ymunais â changen y Tŷ Tawe WAWR. Aethon ni fowlio yn Ten Pin Bowling yn Abertawe. Roedd llawer o hwyl. Doeddwn i ddim wedi bod bowlio ers blynyddoedd! Felly, cymrodd e dipyn bach i gofio’r ffordd i daflu’r bêl.
Yn y gêm gyntaf, dechreuais yn ofnadwy. Collais y pinnau yn gyfan gwbl wedyn cwmpais ‘flat on my back’ yn y ffrynt o Dduw a phawb – roedd popeth yn iawn ond teimlais twp iawn – arbennig achos mae arwyddion mawr ar y llawr a dros y lonydd: Warning! Very slippery floor.
Dw i’n meddwl y byddwn i’n cytuno â hynny!
Gorffenais y gêm yn y lle diwethaf. Ond ar ôl ginio aeth pethau gwell.
Dechreais yr ail gêm gan gwpl o ergydion da ac am hanner ffordd, gwnes sbâr! Wel, roeddwn i’n gwefreiddio. Yn anffodus, aeth e i’m pen, ‘sbo, achos nid allais fwrw’r ochr llydan o ysgubor (Americanism -can’t hit the broad side of a barn) ar ôl hynny.
Ond dim ots – Enillais gyda sgôr uchelaf beth bynnag (llawer i’m syrpreis). Roedd pryd yn wych a dw i’n bwriadu ymuno â WAWR pan bydd pethau yn dechrau eto ym mis Medi.
Roedd y rhan gorau, dw i’n meddwl, oedd sgŵrs dros y noswaith yn Gymraeg ac i fod rhan o’r grŵp a rhan o’r grŵp sy’n gallu siarad iaith y Nefoedd. Dw i’n falch dweud gallais siarad yn Gymraeg 98% o’r amser. Roedd y merched yn wych a doeddwn i ddim yn teimlo fel roeddwn i’n siarad rhy araf. Felly, ymlaciais a gallais ddweud mwy. Yn wir, os dw i’n ymlacio tipyn bach a stopio becso am siarad digon o gyflym, dw i’n gallu dweud llawer o fwy yn Gymraeg. Jyst does dim digon o eirfa ‘da fi. Ond bydd hynny yn dod, dw i’n meddwl. Neithiwr, roeddwn i’n cofio llawer o eiriau na ddefnyddiais yn amser hir. (Mae pawb yn siarad â fi yn Gymraeg un unig wrth gwrs.)
Dw i wedi bod becso am fy Nghymraeg yn hwyr. Mae llawer wedi cael ei ddigwydd i fi eleni ac mae e’n dangos fel roeddwn i’n colli’r iaith. Ond mae pethau’n setlo tipyn bach nawr ac mae e’n dod yn ôl. A dw i’n hapus iawn iawn am hynny.