Wel, mae gaeaf wedi cyrraedd. Yn lwcus mae’r eira wedi ein colli felly dim ond rhew ac iâ. Bore ‘ma mae hi’n heulog a hyfryd – jyst paid â mynd mas heb ‘artic gear’.
Yn anffodus, nid wnaeth y tywydd helpu’r bois neithiwr erbyn Seland Newydd. Nid wyf yn gwybod beth sy’n bod ond mae e’n dangos fel dyn nhw ddim yn chwarae fel tîm cydlynol (cohesive). Ac maen nhw’n gwneud llawer o gamgymeriadau. Llawer. Hefyd, yn fy marn, maen nhw’n chwarae fel amaturiaid – ‘harsh’ i ddweud, iawn, ond dw i wedi gweld nhw chwarae cymaint gwell! Efallai, maen nhw’n teimlo di-ysbryd neu rywbeth, jyst rhywbeth wedi ei golli. Dw i’n gwybod Seland Newydd yn y orau yn y byd, ond dim lliprynnod yw Cymru chwaith! Wel, dim fel arfer, beth bynnag. Gobeithio’r byddan nhw’n gwneud gwell yn y Chwe Gwlad.
Gyda chafodd pob o hynny ei ddweud, rhaid i fi saliwtio i Stephen Jones. Heb Stephen, dw i ddim yn credu’r byddai pwyntiau ar y bwrdd o gwbl. Felly, da iawn Stephen!