Wel, dw i wedi gorffen fy wythnos gyntaf yn ôl yn y brifysgol. Diolch byth! Fe arfer, mae popeth wedi bod cymysg lan a drysu ond rhaid i fi ddweud, mwynhaf fy nosbarthiadau hyd yma. Dim amserlen yn ddrwg chwaith! Dim dosbarthiadau dydd Llun neu ddydd Gwener o gwbl.
Dw i’n meddwl fy hoff dosbarth ar hyn o bryd yw ysgrifennu creadigol. Mae Christine James yn dysgu’r tymor cyntaf a bydd Tudur Hallam yn dysgu’r ail dymor. A dw i wedi bod lwcus iawn iawn – i fod wedi fy nysgu gan athrawon sy wedi ennill y Goron a’r Gadair, Mererid Hopwood yn gyntaf a nawr Christine James a Tudur Hallam – wow!
Mae hanes yn dod iawn hefyd, er bod i wedi newid pynciau – nawr dw i’n mynd ysgrifennu am y llyfr Buched Dewi. Dw i’n meddwl y bydd e’n bwnc da am fy thesis – dywedodd fy ymgynghorydd y byddwn ni’n ysgrifennu thesis, dim traethawd mawr fel meddyliais yn wreiddiol. Felly dyn’ ni – I have my work cut out for me (sa i’n siŵr sut dweud hynny yn Gymraeg – idiom efallai?).
Dw i hapus mynychu’r gwobrau blog wythnos nesaf yng Nghaerdydd. Dw i’n sylw bod llawer o ymryson am y wobr. Ond dw i’n meddwl bod e’n rhywbeth arbennig i fod gallu ysgrifennu yn Gymraeg – does dim pawb sy’n gallu gwneud hynny. Felly, dw i’n credu bod categori arbennig yn rhywbeth neis iawn. Dw i’n credu bod Cymraeg yn haeddu o le arbennig. Felly gobeithio’r fydd pob un o’m cyfeillion Cymreig ddim yn gafael fe erbyn i fi os dw i’n aros yn y gystadleuaeth.
Heno bydd sesiwn Bardd Bach yn Nhŷ Tawe. Mae cyfle yn wych gwrando ar gerddoriaeth werin Gymraeg, cael ychydig o ddiodydd a chwarddiadau. Fel arfer dyn ni’n cael llawer o hwyl. Mae e’n sesiwn agor hefyd, felly os dych chi’n canu offeryn, dewch a chwarae. Bydd popeth yn dechrau rhwng 8:30 a 9:00ish.
Peggi
Mae gen ti ‘dalcen caled’ o dy flaen di ynglyn a sgwennu ‘thesis’, ond siwr o fod ti’n gallu mynd a’r maen i’r wal!
Cofio fi at Dylan, Chris ag Iacob yn sesiwn Ty Tawe.
Hwyl
Jonathan
Gwnaf. Bydd rhaid i ti a Marilyn ddod lawr i sesiwn rhywbryd cyn rhaid i fi fynd yn ôl i Galiffornia, iawn?
Mae Tudur Hallam yn amryddawn ac yn eang ei faesydd fel athro – fe ddysgodd y gitar i fi!
Duw Duw! Do’n i ddim yn gwybod chwaraeodd! Bydd rhaid i fi ofyn iddo fe amdano. Efallai bydd e’n moyn ymuno â ni yn Nhŷ Tawe am sesiwn werin. Beth amdanat ti, Rhys? Os mae diddordeb ‘da ti, edrycha ar wefan Menter Abertawe. Bydd sesiwn nesaf yn digwydd 12/11.