Bendigedig Iawn Iawn

Ac mae hyn yn y rheswm dw i’n caru Cymru!

Neithiwr es i Aberpennar chwarae cerddoriaeth werin gyda Geraint, Tracy a rhai o bobol arall o Ferthyr.  Wrth gwrs anghofiais ysgrifennu lawr yr enw tafarn.

Ro’n i’n meddwl ‘Fydd Aberpennar ddim yn fod mawr iawn siŵr o fod.  Dim ond un neu dau dafarn, reit?  Dim problem, bydda i’n ffeindio nhw.  Bydda i’n tecstio at Geraint pan cyrhaeddaf.”  Felly, bant es i am 7:30 yh.

Naddo.  Mae llawer o dafarnau yn Aberpennar.  Llawer!

Wel, yn amser da, cyrhaeddais yn Aberpennar.  Tecstiais at Geraint a gyrrais i mewn i ganol y ddinas a ffeindiais dafarn prysur.  Roedd grŵp o ferched yn cerdded i’r tafarn felly stopiais i ofyn am y tafarn.  Mae un o’r ferch yn siarad Cymraeg felly roedd hynny yn wych iawn!  Rhodd hi wybodaeth a chyfarwyddiadau yn Gymraeg.  “Os dych chi ddim yn ffeindio nhw, dewch yn ôl a ymunwch â ni i ddiod,” dywedodd hi.  Hyfryd iawn!

Dywedais ‘diolch yn fawr iawn’ ac es i’n ôl dros y bont a ffeindiais y maes parcio soniodd amdano heb broblem.  Gyda gitâr ar fy nghefn, dechreuais bant ffeindio’r tri thafarn soniodd amdano hefyd.

Roedd y stryd yn dywyll iawn a dim llawer o bobol yna.  Roedd e’n dangos fel cymdogaeth breswyl.  Ond, mae e’n edrych fel hynny yn Ystradfera hefyd felly parheais ymlaen.

Roedd cwpl yn cerdded lawr y stryd ata i.  Felly gofynnais iddyn nhw am y tafarnau.  Mwy defnyddiol roedden nhw.  Eithaf neis hefyd.  Roedden ni’n sgwrs tipyn bach a pharheais lan y bryn (stryd).

Wedyn, ar ôl tro byr, cyrhaeddais yn dafarn y cyntaf.  Roedd gwraig yn sefyll tu mas y drws.  Gofynais iddi hi os roedd gwrp cerddoriaeth werin tu mewn.  ‘Na’, meddai hi.  Ond dechreuon ni sgwrs – roedd twym neithiwr – hyd yn oed ar ôl tywyll.  Felly, safan ni tu mas yn siarad am hyn y hynny. Cawson ni dro ardderchog!

Beth bynnag, dywedodd hi ‘Paid â becso am y tafarn nesaf – dim byd yna.  Ond efallai’r un drws nesaf iddo fe’.  Dywedais ‘hwyl’ a mynd i’r tafarn nesaf.

Dim tafarn cywir ond dywedodd y dyn a merch yn sefyll tu mas ‘you can sing in here if you want’.

Hyfryd!

Ond dim diolch – dw i ddim yn barod i fynd solo. 

Felly, dywedais ‘na, diolch’ ac es i yn ôl i’r car.  Ar y ffordd yn ôl i’r car, cwrddais â’r wraig o tafarn y cyntaf.  Daeth hi yn ôl tu mas gyda chwpl o bobol eraill i ffeindio fi.  Dyn nhw wedi bod gofyn tu mewn ac roedd rhywun yn gwybod am y gig dros y pentref.  Dywedon nhw i fynd yn ôl drwy ganol y ddinas i’r clwb Nixon.  Roedd cerddoriaeth werin yna.

Gwych!

Yn y Clwb Nixon, cwrddais â mwy pobol neis ond dim Geraint a Thracy.  Felly, o’r diwedd, rhois y ffidil yn y to, gadais neges at Geraint ac es i yn ôl adre.  Ond roedd taith yn wych a mwyheais fy hunan yn fawr.  Cwrddais â llawer o bobol newydd, pobol neis a ffeindiais ffordd newydd i fynd i dai Annamarie a Diana yn Rhydyfelen.

Nes ymlaen, galwodd Tracy.  Does dim ‘reception’ ffôn symudol yn y tafarn.  Felly, doedden nhw ddim yn derbyn fy neges tan rhy hwyr.  Er hynny, dw i wedi gyrru heibio’r tafarn dwywaith!  O wel, tro nesaf.  Fydda i ddim yn anghofio ysgrifennu’r enw eto.

Yn y cyfamser, roedd profiad cofiadwy arbennig achos bod e’n ail-cadarnhau (reaffirm?) y pethau dw i’n caru mwyaf am Gymru – y bobol a’r diwylliant.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s