Wel, ysgrifennais lawer o stwff negyddol heddiw gynt. Roedd hynny, wrth gwrs twpson a nawr dw i wedi dileu fe. Sori pawb – does dim fel fi. Ond weithiau, mae e’n helpu i fynegi eich amheuaethau a phryderon – mae e’n tynnu nhw mewn persbectif.
Ar ôl ymarfer côr heno, dw i’n teimlo’n well am bethau. Fel dywedodd ffrind “Pan rwyt ti wedi cwpla’r flwyddyn ar ôl i ti wneud yr areithiau, byddi di’n fwy rhugl. So maen nhw’n dangos anodd nawr ond nes ymlaen, byddi di’n falch i wedi gwneud nhw.” Mae hi’n gywir, wrth gwrs.
Felly dw i’n edrych ar yr ochr cadarnhaol eto. Fy hoff ddyfyniad yw ‘I Lwyddo Rhaid Credu’. Ni Allwch gredu os dych chi’n meddwl negadol, iawn? Iawn.
Ymlaen a tuag i fyny!
Peggi,
Wi’n sori nawr fy mod i’n colli dy “stwff negyddol” di… (Na, dim ond jocan ydw i!).
Mae teimladau negyddol yn y felltith fy mywyd i — rhaid i mi ei dderbyn. Ond eto, gwell allan na mewn, yndyfe? 😉
Pob lwc i ti!
Diolch byth! Mi roeddem ni’n dechrau poeni.