Mae’r amser ‘na o’r flwyddyn pan mae e’n dangos bod pob pryf cop yn dringo o gwmpas.
Entomolegydd oedd fy ewythr ac roedd ‘bugs’ rownd ei dŷ gwastad. Felly byddech chi’n meddwl y byddwn i arfer nhw, byddech chi? Na – dim ffordd. Dw i’n casáu’r pethau. Wel, chwarae teg, dim yr holl ohonyn nhw.
Beth bynnag, y dydd arall, dechreuodd y pryf cop ‘ma hongian ar y tu mas o’m ffenestr ystafell gwely. Mae hi’n enfawr – 1 1/2 i 2″ ‘stem to stern’ efallai.
Dim problem o gwbl. Cyn belled â ei bod yn aros tu mas, dim ots.
Neithiwr, dihunais am 2:00 o’r gloch yn y bore. Meddyliais “wel, sa i’n gallu cysgu fel man a man darllen”. Trois y golau ymlaen ac yna, ar y wal dros o’r gwely oedd y pryf cop.
Iwwwwwwwwwwwwwwwwwwwwwwwwwwwwwwwwww!!!!!!!
O ych-y-fi!
Na – dim pryf cop yn yr ystafell gwely, os gwelwch yn dda.
Wrth gwrs, dim ‘fly swatter’ yn yr ystafell gwely. Felly cipiais gylchgrawn a trialais ‘shoo’ hi bant.
Dechreuodd y peth twp cwympo lawr ata i!
Ar ôl tipyn bach o frwydr, llwyddais yn ei anfon bant y ffenestr – whew.
Wrth gwrs daeth yn ôl i mewn i’r ystafell tamaid bach nes ymlaen. Mae’r tro ‘ma, dodais hi tu mas a chau’r ffenestr. Drueni bod y ffenestr ddim yn cau’n dynn. :O(
Hanner awr nes ymlaen roedd y pryf cop yn du mas eto, cafodd y ffenestr ei chau ac roeddwn i wedi tapio’r bwlch.
Bore ‘ma dim pryf cop. Sa i’n siŵr ble aeth hi ond dim ots. Mae hi wedi mynd felly nawr gallaf gysgu’n dawel! :O)