Diflas Iawn yw Fy Mywyd

Does dim byd ysgrifennu amdano ‘da fi.  Dych chi’n gallu gweld hyn ar ôl ddarllen fy mhost o ddoe.  Cwpanau mesur?  O plîs!

Mae’r peth mwyaf cyffroes bod i wedi gwneud y wythnos ‘ma yw gwrando ar Opera Sebon.  Ateb y Canolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru i Bobol y Cwm yw Opera Sebon, ac mae e’n llawer o hwyl.

Fydd Fred a Sandra yn cael eu priodi erioed?  Neu fydd Fred a Bryn yn eu haros yn y carchar ar ôl iddyn nhw ymosod ar gar Griff gyda morthwyl a paent pinc?

Pwy sy’n gwybod?

Dim fi efallai.  Yn drist, dw i’n sgipio Sylfaen Dwys Rhan 2 a Canolradd eleni.  Felly mae’n debyg fydda i ddim yn dysgu a chamgymeriad mawr yw’r briodas Bryn a Siân fel y llyfr gwaith wedi awgrymu.  Ddylen nhw rannu tŷ gyda dim ond un shed?  Efallai bydd hyn yn gamgymeriad mawr arall – mae Bryn yn caru ‘sheds’.

A beth am y cŵn?  Fydd ci Bryn a Siân…erm….ymuno â chi Fred a Sandra?

Fydd Bryn perswadio Fred i ddod mas i’w briodas?  O ran hynny, ydy Sandra yn gallu i briodi â Fred?  Sa i’n siŵr.  Yn Fynediad, dysgon ni bod Sandra wedi priodi â phersonadwr Elvis gydag enw rhyfedd yn Las Vegas.  Wnaeth hi ffeindio fe erioed?

Cymaint diweddion anfoesol!

Gobeithio bydda i’n dysgu’r canlyniad o’r holl hyn yn gwrs uwch.  Gawn ni weld.  Yn y cyfamser, rhaid i chi esgusodi fi, rhaid i fi fynd a dysgu pam mae Sandra byth dweud wrth Fred bod hi’n cysgu â Bryn. Tybed os mae Siân yn gwybod am hynny…..

One thought on “Diflas Iawn yw Fy Mywyd

  1. Dw i’n credu y bydd rôl bwysig i’r “siwpergi”, Bendigeidfran… Yn sicr bydd ci sy’n gallu gweithredu lifft ar ei ben ei huna, cofia, yn gallu cyweirio bywyd cariad Ffred a Sandra hefyd!🙂

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s