Rhaid i fi ddweud, roedd ddoe yn llawer o hwyl! Es i Ŵyl Cwrw Abertawe.
Aeth grŵp ohonon ni ar ôl Siop Siarad i Neuadd Branwyn i’r ŵyl. Roedd gwych arbennig achos bod ni’n gallu siarad yn Gymraeg gyda’i gilydd hefyd.
Roedd cwpl o wirfoddolwyr â siarad Cymraeg a, nes ymlaen, ychydig o bobol yn yr ystafell byrddau.
Dysgu cwpl o eiriau newydd hefyd: melys a chwerw. Dw i’n licio cwrw chwerw’r gorau.
Felly, penderfynais i ymgais blasu pob cwrw chwerw yn y lle. Roedd llawer o gwrw chwerw. Ac, wrth gwrs, doedden nhw ddim gwastad hawdd i ffeindio! Felly roedd e’n angenrheidiol trial llawer o gwrw melys hefyd.
Reit.
Wel, ar ôl i fi dreulio amryw o awr ffeindio’r cyrfau chwerw, penderfynodd fy ffrind, Allison, a fi’r efallai byddai bwyd yn syniad da. Yn ddiolchgar roedd y Wig jyst lan y stryd o Neuadd Branwyn felly baglasom eu ffordd i’r tafarn i ginio a Guinness.
Yn annisgwyliadwy, ffeindiasom siaradwyr Cymraeg yna – ymwelodd 4 dyn o Ogledd Cymru ag Abertawe. Roedden nhw moyn gwybod lle da i fynd nos Sadwrn.
Yn ôl i Neuadd Branwyn, roedd parti yn parhau gyda band ond dim llawer o gwrw achos bod y cwrw wedi bod ei yfed – wel, yr holl ond ‘Wood’. Er hynny, roeddwn i wedi stopio yfed erbyn hynny. O iawn! Ceisiais jyst tipyn bach o hynny hefyd. Wel, o leiaf dw i’n meddwl gwnes.
I wneud stori hir, fyr, roedd ffrindiau Chris a Dai yn dechrau canu yn Gymraeg ac roedd pawb yn mwynhau gwrando arnyn nhw’n fawr! Roedd pobol yn clapio a chanu gyda nhw – Roedd diwedd perffaith i ddiwrnod perffaith.