Prynhawn ddoe es i Bontypridd. Dw i wedi bod i Rydyfelin, ar bwys Ponty, ond dim i Bonty go iawn. Felly dywedodd Annamarie “Dewch lan heddiw a byddwn ni’n gwneud Ponty.”
Mae ‘r Afon Taf yn llifo yn gyflym, i fod siŵr…
…ac er gwaeth o’r glaw, gallais dynnu llun o’r bont.
Aethon ni ymweld â fy ffrindiau, Ann a Maldwyn yn Siop y Bont felly gallais siarad yn Gymraeg gyda nhw. Cwrddais â pherson newydd yna hefyd. Mae hi’n dysgu Cymraeg i blant. Felly, fel gwastad, roedd neis yn siarad Cymraeg gyda pherson newydd. Arbennig fel doeddwn i ddim yn ffeindio unrhywun eraill sy’n siarad Cymraeg. :O(
O yna, aethon ni siopa a cherddon ni o gwmpas y dre. Mae Annamarie yn gwybod llawer o hanes Pontypridd felly adweinyddes daith dda iawn yw hi. Dywedon ni am y ffynnon yn y dre ble roedden nhw arfer rhoi dŵr i’r ceffylau. Mae ffynnon hyfryd gydag idiomau yn Gymraeg yn eu cerfio yn y maen.
Meddyliais fod e’n ddiddorol – y ddraig goch A’R ddraig wen. Byddwn i wedi disgwyl dim ond y ddraig goch.
Mae llawer o siopau a ‘cafés’ ym Mhontypridd:
Hefyd, mae llawer o hen adeiladau hyfryd:
O’r diwedd, cwrddon ni â Diana yn Alfreds i diodydd a chinio. Bwyd yn fendigedig!