Dw i wedi cael diwrnod hyfryd iawn. Mae’r tywydd yn berffaith – heulwen, twym, allwn i ddim gofyn i fwy.
Felly ar ôl i fi gwpla gwaith y prynhawn ‘ma yn gynnar, es i Barc Singleton i gerdded dros y gerddi. Mae’r blodau yn hardd. Na…maen nhw’n fendigedig, a threuliais hyfryd cwpl o awr edrych ar y blodau ac eistedd yn yr haul. Ac ar ôl y niwl ddoe, mae awyr yn glir iawn. Felly, anhygoel yw’r golygfeydd – trwy’r ffordd i’r môr yn betriol.
Dw i’n falch iawn i fod byw yma. Fyddwn i ddim wedi moyn colli’r dydd ‘ma i’r holl y arian yn y byd.