Sa i’n gwybod beth ysgrifennu. Dylwn ysgrifennu rhywbeth, credu. Ond diflas iawn iawn yw fy mywyd ar hyn o bryd. Dw i mewn patrwm yn gafael (holding pattern) erbyn arhosaf i fynd i Galiffornia wythnos nesaf.
Sa i’n edrych ymlaen i’r hediad hir – 10 i 11 awr, ofnadwy yw e a dw i’n casáu hynny. Ond, yn ffordd, dw i’n edrych ymlaen i’r ymweld â Chaliffornia. Mae pethau bod i’n colli amdani hi. Ball Park Franks (hot dogs), bwyd Mexican yn wych, a.y.b. Ar y llaw arall, adre yw Cymru nawr. Mae Cymru yn teimlo fel adre a pan es i Galiffornia dros Nadolig, mae e’n teimlo rhyfedd tipyn bach.
Hefyd, ar hyn o bryd, mae llawer o’m bywyd yn Gymraeg. Dw i ddim yn dda iawn, ond weithiau, dw i’n meddwl yn Gymraeg nawr. A hefyd, dim ond yn Gymraeg yw ymadroddion yn sicr. Pethau fel ‘shwd mae’ a ‘diolch’ a ‘ti iawn?’. Ffeindiaf fy hunan feddwl am yr ymadrodd yn Gymraeg cyntaf nawr neu ar ôl i fi feddwl yn Saesneg, dw i’n meddwl am y ffordd i ddweud hynny yn Gymraeg. Bydda i’n colli hynny yn fawr, credu. Dw i hyd yn oed dod cymysgu weithiau – dw i’n moyn dweud rhywbeth ond mae’r Gymraeg yn dod cyntaf. Wel, rhaid i fi siarad yn Saesneg a dw i ddim yn gallu meddwl am y geiriau Saesneg yn gyflym. Felly petrusaf. Nawr, dw i’n gallu swnio twp yn ddwy iaith! *LOL*
Mae Cymraeg wedi dod rhan fawr ohona i – bob dydd, mae Cymraeg ‘da fy mywyd. Yn rhyfedd, dw i ddim yn gallu dychmygu bywyd heb Gymraeg nawr!
Beth bynnag, dw i’n cymryd llawer o bethau Cymraeg gyda fi i Galiffornia. Dw i’n cymryd llyfrau Cymraeg a thapiau Cymraeg a dw i’n bwriadu siarad â ffrind dros Skype yn Gymraeg. Dw i ddim yn moyn stopio symud ymlaen jyst achos rhaid i fi fynd dros y môr.
Nofel Gymraeg ysgafn a fy helpodd i ddygymod y daith awyren o Gymru i Chicago ddwy flynedd yn ôl. Roeddwn i’n ymddiddori yn y stori cymaint bod yr amser wedi mynd yn gyflym braidd. Ond rhaid dewis nofel yn ofalus. Basech chi’n dioddef mwy fyth tasai’n rhy gymhleth!
Syniad da, diolch Emma. Dw i wedi bod meddwl am ddwy nofel Cymraeg. Un yw e-book ac mae’r arall copi caled – dirgelion yw yn ddwy. Gyda llaw, wyt ti’n mynd i’r cwrs Madog yn Alberta eleni? Fydda i ddim yna, ond blwyddyn nesaf, bydda i’n mynychu’r digwydd yng Nghaerdydd.
Cwrs Madog yng Nghaerdydd!? Byddai hynny hwyl!
Pob lwc yng Nghaliffornia.
Diolch yn fawr. Ydy – Bydd cwrs Madog yng Nghaerdydd blwyddyn nesaf. Dw i’n edrych ymlaen i hynny.
Nagdw, bydda i’n eisteddfota a chrwydro yn Llanberis eleni!
Pryd yn union wyt ti’n mynd i UDA? Mae Americanes a dysgwraig arall ar ei ffordd i Gymru:
http://aderyncan.blogspot.com/2009/06/wpi.html
Diolch Rhys. Yn anffodus, dw i’n mynd i Galiffornia dydd Mawrth (30fed).
Jyst gadael i ti wybod, Cwrs Haf Cymdeithas Madog yng Nghaerdydd neydd ddechrau. Dw i’n mynd i’r Mochyn Du nos yfory i gwrdd a rhai ohonynt.
Diolch Rhys. ‘Falle bydda i’n dod lawr hefyd. Gawn ni weld achos mod i’n gweithio trwy’r dydd ‘fory.