Dyna ni, ‘te!

Dw i wedi mwynhau’r penwythnos ‘ma – mae e wedi bod parti ar ôl parti.  Roedd y dydd diwethaf o’r brifysgol i fi yn ddydd Mawrth.  Felly ers wedyn, dw i wedi bod prysur paratoi i’m daith i America i Nadolig.  Fydda i ddim yn dweud wrthoch chi bod i’n hapus am hynny, er hynny.  Dw i ddim yn siŵr pam – falle bod e’n hediad hir, 11 awr (ych-y-fi).  Falle achos bod i ddim yn moyn i fod rhywle arall i’r gwyliau. Neu falle achos bydda i’n colli’r nos cerddoriaeth werin mis Rhagfyr (mae’r cyntaf bod i wedi colli) neu yn siarad Cymraeg bob dydd.  Falle’r holl o’r pethau ‘na.   :O(

Beth bynnag, hanner dydd Iau, roedd y parti Nadolig Dysgwyr yn Nhŷ Tawe.  Roedd llawer o bobol yna ac roedd e’n hwyl canu Carolau Nadolig yn Gymraeg a siarad â phobol.  Roedd bwyd a diod a chwmni da.

Roedd nos Wener yn antur mewn trenau Arriva – cyntaf i fi – fel es  i Bontypridd i ‘Girl’s Night Out’ parti Nadolig.  Aethon ni i dŷ bwyta enw’r Blue Bombay yn Nantgarw.  Dw i ddim wedi bod i Nantgarw, erioed.  Roedd y bwyd yn ardderchog ac mae cwmni hyfryd, fel gwastad.  Roeddwn i wedi rhedeg i’r trên yn ôl, er hynny, neu byddwn i’n colli fe.  Felly, roedd cwtsh cyflym i Annamarie ac roeddwn i’n bant. Ond roedd hynny yn dda achos bod e’n helpu i weithio bant rhai o’r calorïau bwyteais.

Es i Siop Siarad bore Sadwrn.  Doedd ddim llawer o bobol yna ond roedd e’n neis er hynny.

Yn olaf, roedd parti Nadolig Côr Tŷ Tawe nos Sadwrn.  Roedd e’n wych iawn iawn a mwynheais i fy hunan yn fawr.   Cwrddasom yn Rhif 13, tŷ bwyta yng nghanol tref Abertawe.  Mae e’n dŷ bwyta bach gyda bwyd ‘to die for’. Roedd pawb yna ac ar ôl i ginio, roedden ni’n aros i yfed a chanu.  Gadawais i am hanner nos ac roedd y parti yn dal mynd cryf.

Ers dw i ddim yn siŵr y gallaf ysgrifennu ar y blog o Galiffornia, bydda i’n dweud:

Nadolig Llawen i bawb.  Gobeithio bod eich gwyliau yn hyfryd, gorfoleddus a thawelwch.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s