Tyrfe Tawe 2008

Doeddwn i ddim yn gallu i fynd nos Fawrth neu Fercher felly collais i Brigyn. :O( Ond roeddwn i’n gallu i fynd nos Wener. Roedd digwyddiad yn y Schooner ar y marina yn Abertawe. Chwarae Neil Rosser, Crys a Lowri Evans ac roedd nos wych iawn iawn! Roedd cerddoriaeth yn fendigedig ac roedd y cwmni yn fendigedig. Ces i dro gwych.

Daeth pobol o gwmpas yr ardal hefyd – yr holl yn siaradwyr Cymraeg. Gwelais lawer o ffrindiau a chwrddais i rai pobol newydd. Gwnes i ‘pretty good’, siaradais i Gymraeg bron trwy’r amser.

Tynnodd ffrind lluniau o’r perfformwyr ac roedd dyn o S4C gyda chamera teledu. Ffilmiodd e bopeth.

Am 11:00 o’r gloch neu fel, roedd merched wedi blino o aros ar y dynion, felly dawnsion ni gyda’n gilydd. Edrychodd yr holl y dynion arnon ni, wrth gwrs, ond fydden nhw ddim yn dawnsio. Dw i’n meddwl bod nhw’n colli yn fawr – roedd e’n hwyl wych yn dawnsio! Dw i ddim wedi gwneud hynny ers blynyddau.

Gorffennodd y band diwethaf am 12:30 yn y bore. Roedd rhaid inni ni adael yna a rhodd ffrind arall lifft i fi a rhai pobol eraill. Mae peth da, hefyd, achos costiodd tacsi yn fawr – £8.75 i fynd o’m adre i Schooners! Ych-y-fi. :O( Felly roedd hynny yn neis ohono fe.

Nesaf, roedd Tŷ Tawe bore ‘ma. Chwarae’R Alltud cyntaf ac wedyn Gwyneth Glyn yn canu am hanner awr neu fel. Eto, cerddoriaeth wych a chwmni gwych. Roedd ffrindiau a phobol newydd yn Dŷ Tawe bore ‘ma.

Bydd digwyddiad diwethaf yn heno yn Milkwood Jam yng nghanol y ddinas. Bydd amryw fandiau; Derwyddon Dr. Gonzo (woo hoo!), Gai Thoms, Mr. Huw (da iawn), Yucatan, Eskimo (clywais iddyn nhw yng Nhŷ Tawe ers wythnos ac maen nhw’n dda iawn), Yr Angen, Y Mellt (mae fy ffrindiau a grŵp da iawn) a Llygredd Swn. Dw i wedi clywed Llygredd Swn, Yucatan, Gai Thoms neu’R Angen. Felly bydd cerddoriaeth newydd glywed heno.

Roeddwn i ‘ma’r llynedd ond roeddwn i eithaf prysur yn ceisio ymdopi gyda phopeth. Eleni, gallaf i fwynhau popeth. Dw i’n hoffi eleni yn well. :O)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s