Wel, mae fy chwaer a brawd yng nghraith wedi mynd yn ôl i Galiffornia. Ond cawson ni ymweld bendigedig â’n gilydd. Aethon ni i lawer o gestyll (fel fi, mae fy chwaer yn caru cestyll) ac aethon ni siopa ym mhentrefi dros Gymru. :O)
Roedd nos gerddoriaeth werin Cymraeg yn Dŷ Tawe yn ystod eu harhosiad nhw. Felly daethon nhw gyda fi – Roedd Pat (brawd yng ngfraith) yn siarad mewn canu’r guitar i’r cân neu ddwy gan fy ffrindiau, hyd yn oed! Mwynhaodd e’n fawr. Y dydd nesaf, aethon ni at Abercraf i’r Ŵyl Glyndŵr. Roedd hynny cymaint o hwyl – gallwn i wedi aros trwy’r nos!
Roedd Pat yn mwynhau ceisio ei dysgu newydd Cymraeg a doedd e ddim yn hir cyn iddo fe ddweud ‘diolch yn fawr’ wrth bobol yn siopau a thai bwyta. Doedd Kathy ddim yn siŵr am geisio Cymraeg felly dim ond roedd hi’n siarad â phobol Cymry. Dywedodd hi wrtha i fod y bobol Cymry yn neis iawn a chyfeillgar iawn.
Carodd y ddau Cymru a un noswaith dywedon wrtha i ‘You made a great choice of a place to live. It suits you.’ Wel, wrth gwrs, roedd hynny yn gwneud fi teimlo da iawn!
Fi, Kath & Pat
Roedd neis iawn iawn eu gweld nhw – mae e wedi bod mwy na blynedd ers gwelais i fy nheulu. Ac roedd cyfle ‘da nhw cwrdd â fy ffrindiau, mwynha’r diwylliant Cymreig a gwelaf rhai o’r wlad hyfryd.
Aethais i’r Ŵyl Glyndŵr hefyd. Tywydd braf a chwrw lleol. Hyfryd.
S’mae Huw. Ie – mae’r cwrw lleol yn dda, do fe? A cherddoriaeth hefyd. Efalle gwelon ni’n gilydd – roeddwn i’n sefyll agos y babell gwrw.