Kate Roberts

Ydy hynny yn ochenaid grŵp bod i’n clywed? Os dych chi yn Gymraeg lefel cyntaf yn y Brifysgol Abertawe, dych chi’n ochneidio yn sicr nawr fel byddai unrhywun sy’n yn eu lle. Ond dw i’n credu bod e’n ‘rite of passage’ yn y Brifysgol. Os dych chi’n dweud â ‘upper classmen’ (Shwd dych chi’n dweud hynny yn Gymraeg? Unrhywun yn gwybod?) “Dyn ni’n astudio Kate Roberts”, maen nhw’n siglo eu pennau nhw yn ymwybodol, “A, ie, Kate Roberts. Dw i’n cofio Kate Roberts”.

Fel llawer o bobol, dw i ddim yn hoffi gwaith Kate Roberts. Dw i’n deall y roedd bywyd yn galed iawn yn y dyddiau ‘na. Ond allai hi roi dim ond un stori diwedd hapus? I werth newyddbeth, os dim byd arall? Neu, efallai, gallai hi wedi amrywio’r thema tipyn bach dim ond helpu i gadw ei darllenwr ar ddihun?

Mae person angen mynydd o ‘Prosac’ ar ôl darllen Kate Roberts. :O)

Beth bynnag, rhaid i ni ysgrifennu 1,500 gair am Kate Roberts. Bydda i’n lwcus i ddod lan gyda phump.

5 thoughts on “Kate Roberts

  1. Dw i’n eitha hoffi’r hen Kate, ond dw i ddim wedi’i hastudio yn y coleg. Ffordd dda o ladd teimladau cynnes at unrhyw awdur, honna.

  2. Upperclassman (U. S. Schools) = “ysgolor uwchradd” yn ôl Academi.

    Upper class = “dosbarth uchaf”
    Upper school = “ysgol uchaf”
    yn ôl Y Termiadur.

    Felly, efallai “dyn dosbarth uchaf” yn DU?

    Dw i’n dod o hyd i Kate Roberts anodd darllen hefyd.

  3. Dw i’n hoff iawn o “Te yn y Grug.” Dw i wedi gwrando ar y CDau brynes i blynyddoedd yn ôl drosodd a throsodd. Mae caredigrwydd a chreulondeb dynol yn eu cymysgu yn y storiau. Fedra i ddim dweud dim am ei nofelau eraill wrth gwrs.

  4. Dwi’n hoffi gwaith Kate Roberts gan fod ei llyfrau yn canolbwyntio ar ran y ferch mewn teulu a chymdeithas.
    Yn cofio Dr Kate yn iawn . ‘Roedd hi’n ymwelydd cyson yn ein hysgol gynradd yn Ninbych…..yr ysgol Gymraeg ddaru hi helpu i’w sefydlu.
    Mae’n bur debyg fod cyn gymaint o bobl yn hoffi ei gwaith ag sydd ‘na sydd ddim yn rhy hoff ohono😉
    Beth bynnag , hwyl i ti ar y traethawd…!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s