Wow! Mae llawer o bethau yn digwydd y wythnos ‘ma a dechreuais i gyda dosbarth gramadeg gwych! Dysgon ni arddodiad cyfansawdd bore ‘ma – llawer o wybodaeth dda. Mwynheais i’r dosbarth llawer iawn iawn. Ar ôl hynny, dw i wedi sgwrs gyda Siân yn Glyndŵr (yn Gymraeg, wrth gwrs – ymarfer, ymarfer, ymarfer) a nawr dw i moyn siarad dim ond Cymraeg! Dw i mor caru’r iaith ‘ma!
Beth bynnag, dydd Mercher bydd Tŷ Tawe yn cael Dathliad Dydd Gŵyl Dewi i Ddysgwyr o 11-2. Dylai hynny fod yn hwyl. Dydd Iau mae coffi yn y bore ac wedyn dw i’n mynd i’r Theatr Taliesin gweld Y Pair gyda fy ffrind, Telsa. Dydd Gwener dw i’n gyrru i Bontypridd i’r pryd o fwyd allan gyda ffrindiau merched ac yn ôl i Dŷ Tawe y nos ‘na i Wener y Grolsch (cerddoriaeth gan Gwyneth Glyn).
Coffi yn Tŷ Tawe bore Sadwrn? Efallai. Rhaid i fi ddianc o waith cyntaf. :O( Dydd Sadwrn bydd Côr Tŷ Tawe yn perfformio fyw. Dw i ddim wedi gwarando arnyn nhw canu a nawr dw i’n nabod rhai pobol yn y côr. Felly dylai hynny fod yn wych. Yn olaf bydd y Perfformiad Dydd Gŵyl Dewi yn Neuadd Branwyn, Cerddoriath Gymreig â Golau Cannwyll. Dw i’n mynd mwynhau y wythnos ‘ma llawer iawn!
Da iawn ti. Mwynha dy hun.
Mi na i godi’r Ddraig Goch a pharatoi cawl cennin ayyb ddydd Sadwrn.