Wel, roeddwn i wedi diflasu heddiw fel es i siopa. Doeddwn i ddim yn ffeindio ffrogiau haf y hoffais neu unrhywbeth arall chwaith. Ond roeddwn i’n ffeindio Starbucks! Ie!
Wrth grws allwn i ddim adael Starbucks heb “Iced Carmel Frappacino grande”. Perffaith fel mae hi’n dwym heddiw yng Nghaliffornia. Wel, mae’n oerach na ddoe, dim ond 33C, ond dwym ‘nonetheless’ (Ydy unrhywun yn gwybod sut i ddweud ‘nonetheless’ yn Gymraeg?).
Roeddwn i newydd gadael siop y Starbucks pan gwelais Siop Y Siocled. O na! Dw i ddim yn gallu mynd heibio i hynny – Shwd byddai fy neintydd fynd i Hawaii eleni? hahahahahaha
Felly es i mewn i Siop Y Siocled a phrynais siocled tywyll, fy hoff, a mints. Mae fy nant melys yn fodlon nawr. Wrth grws, dyna ddim gobaith o ffitio yn fy ‘jeans’ nawr. O wel, fel ‘na mae hi!
Mae’n anodd darllen dy lythyr wrth syllu ar y llun prydferth yna. 🙂
Beth bynnag. dw i ddim wedi ffitio i mewn fy nillad ers blynyddoedd. 😦
Hazel
nonetheless …beth am ‘er hynny’ ?
Starbucks a siocled yn gymysgfa dda 🙂