Ocê, dw i’n cyfaddef bod e’n anodd aros bant o’r blog. Yn enwedig ar ôl dwy noson ardderchog o gerddoriaeth werin. Ro’n nhw’n rhy da DIM ysgrifennu amdanyn.
Yn amlwg, dw i’n teimlo’n well ac mae Sha Nôl, Sha Mlân dros y penwythnos wedi helpu’n fawr iawn. Mae cerddoriaeth werin Gymraeg wastad gwneud fi i deimlo’n dda.
Trefnodd Geraint Roberts y digwyddiad eto eleni ac, os unrhywbeth, roedd e’n well na’r llynedd.
Nos Wener, aethon ni i Ystalyfera yng Nghwm Tawe Uchaf a chwrdd yn t tafarn Wern Fawr. Roedd llawer o gerddorion a llawer o offerynnau gwahanol draw dwy ystafell. Cerddoriaeth dda a chwmni da. Mae tafarn yn diddorol iawn hefyd. Ar y nenfwd ac y waliau, mae hen offer glo.
Neithiwr, symudodd bopeth i Merlins yn Ystradgynlais – jyst lan y ffordd o Ystalyfera. Eto, roedd cwmni’n dda a llawer o gerddorion talentog. Daeth rhyw o’r un bobl fel Ystalyfera ychwaneg rhyw bobl newydd. Daeth pobl o Abertawe a chanol Cymru – hyn yn oed Lloegr ac America! (Arall na fi.)
Dw i’n mwynhau ymweld ag Ystalyfera ac Ystradgynlais erioed. Mae ardal neis ac mae llawer o bobl yna yn siarad Cymraeg. Jyst lle neis i fod a dim eithriad oedd y penwythnos ‘ma.