Wel, bydd heno noson gwobr yng Nghaerdydd. Dw i dipyn bach nerfus, rhaid i fi gyfaddef.
Daeth Wedi 7 nos Fawrth siarad â fi felly, byddan nhw’n chwarae’r fideo ‘na heno yn ystod y darllediad yn fyw o Chapter Arts Centre. Dw i ddim yn disgwyl ennill, ond bydd e’n hwyl iawn cymryd rhan a mwynheais gwrdd â chriw Wedi 7 yn fawr. Pobol hyfryd ydyn nhw a diolch arbennig iddyn nhw – roedd noson yn anodd i fi achos roedd argyfwng anifail anwes ‘da fi.
Dw i’n credu’r blogiau’n dangos yr iaith yn byw a thyfu. Mae wedi bod llawer o gwestiynau yn ddiweddar am y gwerth o Gymraeg. Felly, dw i’n credu bod e’n bwysig iawn iawn i ddangos bod yr iaith yn gallu symud ymlaen ochr yn ochr ag ieithoedd eraill. Hefyd, mae e’n bwysig i ddangos bod e’n bosibl defnyddio’r Gymraeg mewn bob rhan o fywyd, yr un fel Saesneg. Dw i’n credu’r blogiau Cymraeg yn helpu â hynny.
Felly, dyma ‘pob lwc’ i bawb ac edrychaf ymlaen at gwrdd â phawb.
Mi wnes i dy weld ti ar raglen Wedi 7. Da iawn ti a daliwch ati!