Heddiw es i’r optegwr i’m harholiad llygaid blynyddol. Mae optegwr (Alun yn Bater & Jones, Ysbyty Singleton) yn siaradwr iaith gyntaf. Wel, gofynnodd i fi “Beth dych chi’n astudio yn y Brifysgol?”
“Cymraeg a hanes canoloesol” atebais
“Cymraeg yr iaith?” gofynodd yn Gymraeg.
“Ie” dywedais.
Ar ôl hynny siaradon ni dim ond yn Gymraeg. Wel, bron. Doeddwn i ddim yn gwybod rhyw eiriau (geiriau newydd) ac mae e’n dod o’r cwm Tawe (Ystradfera) felly mae e’n ynganu rhyw eiriau yn wahanol. Felly, doeddwn i ddim yn deall popeth. Ond unwaith roedd e wedi rhoi’r ynganiad mwy cyffredin, gallodd siarad ddefnyddio ynganiad cwm ac roeddwn i’n gallu deall.
Sa i’n gallu credu hyn. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gallu deall Cymraeg erioed – yn wir! Nawr yn sydyn eleni, dw i’n gallu deall mwy a mwy. Sa i’n gallu dweud shwd bendigedig yw hyn! Nawr, mae e’n dangos naturiol clywed Cymraeg a nawr dw i’n gallu newid i mewn i fodd Cymraeg haws.
Dw i’n teimlo bendigedig heno ar ôl y profiad ‘ma. Mae’n anodd discrifio. Ond pan dych chi’n gallu deall Cymraeg ac ateb yn Gymraeg…wel…popeth yn teimlo perffaith.
Dw i’n mynd lan a lawer fel mae pawb sy’n darllen y blog ‘ma yn gwybod. A dyw e ddim wedi bod hawdd o gwbl. Mae e wedi bod llawer o weithiau pan dw i wedi moyn rhoi’r ffidl yn y to. Ond yn hwyr, er gwaethaf popeth, dw i’n teimlo’r bydda i’n gwneud fe. Beth teimlad hyfryd!
Da iawn Peggi! Llongyfarchiadau am wneud mor dda!
Pob hwyl
Jonathan
Newyddion ardderchog!