Yn olaf, ar ôl haf ofnadwy, roeddwn i’n gallu ymlacio tipyn bach. Dros y penwythnos es i’r Gŵyl Glyndŵr yn Abercraf. Bendigedig iawn iawn!
Dw i ddim yn credu roedd cymaint pebyll â’r llynedd. Wel, byddai e’n gwella i ddweud dim cymaint bwyd. Yn bendant, roedd mwy cerddoriaeth côr na’r llynedd.
Cwrddais â Allison ar ôl Siop Siarad yn y bore. Ar ôl i ni ffeindio’r babell cwrw, ffeindion Yr Alltud a threulion amser gwrando arnyn nhw. Roedd mor hyfryd i eistedd yn yr heulwen, yn yfed cwrw, gwrando ar ffrindiau’n canu cerddoriaeth werin. Roedd llawer o bobol yn stopio i wrando hefyd – roedd pawb yn mwynhau’r gerddoriaeth.
Ar ôl am dipyn, penderfynodd Allison a fi edrych o gwmpas y safle felly cerddon i’r gwersyllfan canoloesol ble cwrddon ni â dau ddyn a gwisgo fel marchogion. Dywedon nhw wrthon ni am fywyd yn adegau canoloesol. Wedyn, dw i ddim eithaf siŵr shwd, roedden nhw’n gwisgo fi yn ddillad canoloesol! O fy! Dywedon nhw ‘look mean’. Ond roeddwn i’n chwerthin rhy galed – roedd amhosib.
Cyn i ni adael, daeth Owain Glyndŵr. Felly, roedd hynny yn tidy hefyd. A throdd y prynhawn neis i mewn noswaith yn wych fel cafodd mwy cerddoriaeth ei chanu, ac aethon ni i beint (neu dau) yn y pub.
Arbennig oedd y diwrnod i fi – roedd e’n hyfryd i ymlacio â ffrindiau heb fecso am unrhywbeth am dibyn. Mwynheais fy hunan yn fawr.





