Dyna Diddorol! ‘Sbo.

Sa i’n gwybod beth ysgrifennu.  Dylwn ysgrifennu rhywbeth, credu.  Ond diflas iawn iawn yw fy mywyd ar hyn o bryd.  Dw i mewn patrwm yn gafael (holding pattern) erbyn arhosaf i fynd i Galiffornia wythnos nesaf.

Sa i’n edrych ymlaen i’r hediad hir – 10 i 11 awr, ofnadwy yw e a dw i’n casáu hynny.  Ond, yn ffordd, dw i’n edrych ymlaen i’r ymweld â Chaliffornia.  Mae pethau bod i’n colli amdani hi.  Ball Park Franks (hot dogs), bwyd Mexican yn wych, a.y.b.  Ar y llaw arall, adre yw Cymru nawr.  Mae Cymru yn teimlo fel adre a pan es i Galiffornia dros Nadolig, mae e’n teimlo rhyfedd tipyn bach.

Hefyd, ar hyn o bryd, mae llawer o’m bywyd yn Gymraeg.  Dw i ddim yn dda iawn, ond weithiau, dw i’n meddwl yn Gymraeg nawr.  A hefyd, dim ond yn Gymraeg yw ymadroddion yn sicr.  Pethau fel ‘shwd mae’ a ‘diolch’ a ‘ti iawn?’.  Ffeindiaf fy hunan feddwl am yr ymadrodd yn Gymraeg cyntaf nawr neu ar ôl i fi feddwl yn Saesneg, dw i’n meddwl am y ffordd i ddweud hynny yn Gymraeg.  Bydda i’n colli hynny yn fawr, credu. Dw i  hyd yn oed dod cymysgu weithiau – dw i’n moyn dweud rhywbeth ond mae’r Gymraeg yn dod cyntaf.  Wel, rhaid i fi siarad yn Saesneg a dw i ddim yn gallu meddwl am y geiriau Saesneg yn gyflym.  Felly petrusaf.  Nawr, dw i’n gallu swnio twp yn ddwy iaith!  *LOL*

Mae Cymraeg wedi dod rhan fawr ohona i – bob dydd, mae Cymraeg ‘da fy mywyd.  Yn rhyfedd, dw i ddim yn gallu dychmygu bywyd heb Gymraeg nawr!

Beth bynnag, dw i’n cymryd llawer o bethau Cymraeg gyda fi i Galiffornia.  Dw i’n cymryd llyfrau Cymraeg a thapiau Cymraeg a dw i’n bwriadu siarad â ffrind dros Skype yn Gymraeg.  Dw i ddim yn moyn stopio symud ymlaen jyst achos rhaid i fi fynd dros y môr.

Ynghylch Peggi Rodgers

Mae Peggi yn dysgu Cymraeg a mynychaf'r Prifysgol Cymru Abertawe eleni.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Bywyd, De Orllewin Cymru, Iaith y Nefoedd. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Mae Emma Reese yn dweud:

    Nofel Gymraeg ysgafn a fy helpodd i ddygymod y daith awyren o Gymru i Chicago ddwy flynedd yn ôl. Roeddwn i’n ymddiddori yn y stori cymaint bod yr amser wedi mynd yn gyflym braidd. Ond rhaid dewis nofel yn ofalus. Basech chi’n dioddef mwy fyth tasai’n rhy gymhleth!

  2. Mae Peggi Rodgers yn dweud:

    Syniad da, diolch Emma. Dw i wedi bod meddwl am ddwy nofel Cymraeg. Un yw e-book ac mae’r arall copi caled – dirgelion yw yn ddwy. Gyda llaw, wyt ti’n mynd i’r cwrs Madog yn Alberta eleni? Fydda i ddim yna, ond blwyddyn nesaf, bydda i’n mynychu’r digwydd yng Nghaerdydd.

  3. Mae Sionned yn dweud:

    Cwrs Madog yng Nghaerdydd!? Byddai hynny hwyl!

    Pob lwc yng Nghaliffornia.

  4. Mae Peggi Rodgers yn dweud:

    Diolch yn fawr. Ydy – Bydd cwrs Madog yng Nghaerdydd blwyddyn nesaf. Dw i’n edrych ymlaen i hynny.

  5. Mae Emma Reese yn dweud:

    Nagdw, bydda i’n eisteddfota a chrwydro yn Llanberis eleni!

  6. Mae Rhys yn dweud:

    Pryd yn union wyt ti’n mynd i UDA? Mae Americanes a dysgwraig arall ar ei ffordd i Gymru:

    http://aderyncan.blogspot.com/2009/06/wpi.html

  7. Mae Peggi Rodgers yn dweud:

    Diolch Rhys. Yn anffodus, dw i’n mynd i Galiffornia dydd Mawrth (30fed).

  8. Mae Rhys yn dweud:

    Jyst gadael i ti wybod, Cwrs Haf Cymdeithas Madog yng Nghaerdydd neydd ddechrau. Dw i’n mynd i’r Mochyn Du nos yfory i gwrdd a rhai ohonynt.

  9. Mae Peggi Rodgers yn dweud:

    Diolch Rhys. ‘Falle bydda i’n dod lawr hefyd. Gawn ni weld achos mod i’n gweithio trwy’r dydd ‘fory.

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s