Posted by: Peggi Rodgers | 6 Chwefror 2009

Mwy Eira

Ddoe es i fas gyda syniad disglair tynnu lluniau o Gefn Bryn. Syniad Twp! Roedd tywydd yn ofnadwy, roedd cyflyrau gyrru yn ofnadwy, roedd niwl yn stopio’r olygfa, mae’r potholes the size of Cincinnati yn yr heol i Gefn Bryn (mae car bach iawn iawn ‘da fi) a pan gyrhaeddais i, roedd rhaid i fi droi o gwmpas yn yr heol achos doeddwn i ddim yn cael ’stuck’.

Beth bynnag, roedd Eglwys Pennard yn hyfryd yn y tipyn bach o eira. Felly stopiais i a thynnais i gwpl lluniau da yna.

Eglwys Pennard

Eglwys Pennard

Roedd hen feddi yn hyfryd yn yr eira hefyd.

Bore ‘ma, roedd pawb yn synnu ffeindio eira ffres ac iâ. Felly roedd rhaid i fi golli fy nosbarth cyntaf achos roedd cymaint iâ ar y stryd – dim sêff i yrru. Mae iâ yn ei fynd nawr ac mae bron yr eira yn ei fynd nawr hefyd. Heulwen neis yn lle a rhaid i fi ddweud bod hi’n teimlo neis iawn iawn.


Leave a response

Your response:

Categorïau